Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Am gynllunio

Mae'r system gynllunio yn rheoli datblygiad a defnydd tir er budd y cyhoedd. Mae cynllunio'n delio gyda'r amgylchedd materol megis adeiladau, ffyrdd newydd, parciau ac adnoddau naturiol. Mae cynllunio'n ymwneud â threfi, dinasoedd a chefn gwlad.

Yn aml, cyfeirir at gynllunio fel 'cynllunio gofodol', neu, mewn geiriau eraill, sut rydym yn rheoli, defnyddio a newid y gofod sydd o'n cwmpas. Mae cynllunio'n ymwneud â rheoli'r gystadleuaeth dros y defnydd o'r gofod, megis cydweddu'r angen am fwy o dai gyda'r angen am ardaloedd gwyrdd digonol.

Mae cynllunio'n ystyried popeth o anghenion economaidd, anghenion cymdeithasol ac ystyriaethau amgylcheddol i hanes, agweddau'r cyhoedd ac anghenion cenedlaethau i ddod. Fodd bynnag, y brif ystyriaeth i gynllunwyr yw sicrhau bod y datblygiad o fudd i'r cyhoedd h.y. bod pobl eisiau'r hyn a adeiladir ac y bydd o fudd i gymaint o bobl â phosibl.

Gall cynllunio fod ar sawl lefel, o lefel fawr megis faint o feysydd awyr sydd eu hangen yn y DU, i lefel fach megis a fedrwch chi adeiladu estyniad ar eich tŷ neu ddim. Felly, er y byddai maes awyr yn amhoblogaidd yn lleol, bydd creu swyddi a'r buddiannau economaidd i'r DU gyfan yn golygu efallai rhoddir caniatâd i'r datblygiad.

Os hoffech ddysgu rhagor am beth yw cynllunio, a beth nad yw e, rhowch gynnig ar ein cwis bach cynllunio drwy glicio yma neu ar y ddolen berthnasol yn y ddewislen ar y chwith.

Ers datganoli yn 2000 mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn gyfrifol am y system gynllunio yng Nghyrmu. Mae'r system yng Nghymru yn debyg i un Lloegr a'r Alban, ond mae 'na wahaniaethau. Yn yr adran yma o'r wefan cewch wybodaeth am y system gynllunio yng Nghymru.

Mae nifer o elfennau gwahanol i'r system gynllunio. Maent yn cynnwys polisi cynllunio cenedlaethol, Cynlluniau Datblygu Lleol, ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio. Yn yr adran yma o'r wefan ceir trosolwg o'r gwahanol elfennau a chanllawiau lle i gael hyd i ragor o wybodaeth. Cliciwch ar y dolenni yn y ddewislen ar y chwith i fynd i bob adran.