40 mlynedd o Gymorth Cynllunio yng Nghymru

Mae Cymorth Cynllunio Cymru, yr elusen sy’n helpu cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â’r system gynllunio yng Nghymru, yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth y mis Tachwedd hwn.

Fe’i sefydlwyd ym mis Tachwedd 1978 gan grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, a bu dros gant o wirfoddolwyr Gwasanaeth Cymorth Cynllunio De Cymru yn rhoi cyngor ar y ffôn i filoedd o bobl oedd yn poeni am faterion cynllunio yn ystod y degawd cyntaf.

Yn yr wythdegau hwyr, newidiodd y sefydliad i fod yn gorff annibynnol, gan gofrestru fel elusen a chwmni cyfyngedig ym 1990. Dros y blynyddoedd, ehangodd y sefydliad ei wasanaethau gan baratoi canllawiau hawdd eu darllen ar y broses gynllunio, traddodi cyrsiau hyfforddi i grwpiau cymunedol a Chynghorau Cymuned a Thref yn ogystal â darparu cyngor arbenigol ar ymgysylltiad cymunedol i awdurdodau cynllunio lleol.

Er mwyn cefnogi ymgysylltiad cymunedol yn y broses gynllunio, sicrhawyd a chadwyd, gyllid gan Lywodraeth Cymru ers 2004. Wrth siarad am ddyfodol Cymorth Cynllunio Cymru, dywedodd James Davies, Prif Weithredwr y sefydliad: “Mae newidiadau diweddar i’r system gynllunio yng Nghymru, yn enwedig Cynlluniau Cynefin, yn rhoi cyfleoedd arwyddocaol i gymunedau i lunio’u cynefinoedd eu hunain. Mae Cynlluniau Cynefin yn fath ar Ganllaw Cynllunio Atodol a ellir eu paratoi gan Gynghorau Cymuned a Thref neu gymunedau sy’n byw mewn ardaloedd heb Gyngor Cymunedol.  Mae Cymorth Cynllunio Cymru eisoes wedi paratoi canllawiau ar Gynlluniau Cynefin yn www.placeplans.org.uk ac rydym yn dechrau cefnogi Cynghorau Cymuned wrth iddynt gychwyn ar y broses.”

Wrth roi sylwadau ar y newid hwn, dywedodd James: “Bydd ein llinell gymorth, a gychwynnodd fel cyngor ar y ffôn, bob amser yn rhan sylfaenol o’r hyn a wnawn a byddwn yn parhau i recriwtio cynllunwyr gwirfoddol ar draws Cymru i’n cynorthwyo i gynnal y gwasanaeth hwn. Ond rydym hefyd yn cychwyn dulliau arloesol i hwyluso ymgysylltiad – yn ogystal â’n gwaith ar Gynlluniau Cynefin, rydym yn archwilio cyfleoedd i ymgysylltiad digodol ledaenu’r neges ac ymgysylltu mwy o bobl yn effeithiol yn y broses gynllunio.”  

Tra bo’r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr a staff y sefydliad yn gynllunwyr, mae Cymorth Cynllunio Cymru yn cydnabod ac yn croesawu’r rheiny heb gefndir cynllunio sydd am ddarparu cefnogaeth. Denwyd Cadeirydd Bwrdd Rheoli presennol y sefydliad, Louise Matthews, hithau heb gefndir cynllunio, at Cymorth Cynllunio Cymru ar ôl mynychu cyfarfod cynllunio Cyngor Cymuned lleol ynghylch cais cynllunio dadleuol:

“Ces fy synnu i weld sut gall cynllunio effeithio’n fawr ar gymunedau lleol a sut y gall ychydig o wybodaeth am gynllunio wneud gwahaniaeth mawr i allu pobl i ddweud eu dweud.  Roeddwn yn falch iawn i weld bod Cymorth Cynllunio Cymru yn bodoli ac yn helpu i bontio’r rhaniadau rhwng y rhai sy’n gwybod a’r rhai heb wybodaeth.”

Bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth trwy gyhoeddi adroddiad effaith a chynnal derbyniad arbennig fel rhan o’i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym Mehefin 2019.

Share via
Share via
Send this to a friend