Cynlluniau Datblygu Lleol

Gosodir polisïau cynllunio lleol yn y cynllun datblygu ar gyfer pob un o’r 25 ardal awdurdod cynllunio lleol  yng Nghymru. Os yw eich awdurdod lleol neu awdurdod parc cenedlaethol wedi ‘mabwysiadu’ (cymeradwyo) cynllun datblygu, dylech wybod am y polisïau o’i fewn oherwydd maent yn effeithio ar benderfyniadau cynllunio yn eich ardal. Mae Polisi cynllunio cenedlaethol  yn fwy tebygol o fod yn berthnasol os yw’r cynigion yn fawr iawn, neu os y mabwysiadwyd y cynllun datblygu lawer o flynyddoedd yn ôl a bellach wedi dyddio. Y ddau brif fath o gynllun datblygu yw Cynlluniau Datblygu Unedol a Chynlluniau Datblygu Lleol.

Ers 2004 mae’n ofynnol bod pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (neu ‘CDLl’) ar newydd wedd. Mae’r CDLl yn fyrrach ac yn fwy cryno a dylai gymryd llai o amser i’w baratoi. Yn y CDLl ceir cynigion pob awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygiadau’r dyfodol a’r defnydd tir yn eu hardal. Yn raddol bydd y CDLl yn cymryd lle’r Cynlluniau Datblygu Unedol. Unwaith bydd y CDLl wedi ei fabwysiadu, bydd yn ffurfio sail penderfyniadau cynllunio a wneir gan yr awdurdod cynllunio lleol. Ble bo’n bosibl, dylai’r CDLl gysylltu ag amcanion y Strategaeth Gymunedol leol, neu, yn ardaloedd Parciau Cenedlaethol, y Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol.

Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wrthi’n paratoi eu Cynllun Datblygu Lleol ac maent ar wahanol gamau yn y broses. Gellir defnyddio’r CDLl i benderfynu ar geisiadau cynllunio, hyd yn oed tra mae’n cael ei baratoi, gan ei fod yn datgan beth yw cynlluniau’r cyngor am yr ardal yn y dyfodol. Yr agosaf y bydd yr awdurdod cynllunio at orffen y Cynllun Datblygu Lleol, y mwyaf o bwysau sydd ganddo wrth wneud penderfyniadau ar ganiatâd cynllunio.

Mae’r CDLl yn annog mwy o ymrwymiad gan y cyhoedd wrth greu cynllun nag oedd yn digwydd gyda’r Cynlluniau Datblygu Unedol. Dylai awdurdodau geisio ymgysylltu â’u cymunedau yn ystod camau cynnar creu cynlluniau ac ymgynghori â’r cyhoedd yn ystod y camau hwyrach (fel arfer gelwir hyn yn ‘ymgynghoriad cyhoeddus’). Amcan hyn yw lleihau anghydweld ynghylch camau diweddar y cynllun ac i sicrhau pobl ble mae datblygiad yn debygol o ddigwydd yn eu hardal.

Rhennir y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol i chwe cham penodol. Dyluniwyd rhai o’r camau hyn, yn enwedig y rhai cynharach, i alluogi’r cyhoedd i gymryd rhan. Gwelir y camau hyn yn y diagram isod:

 

Sail tystiolaeth

Amcan y cam hwn yw i nodi’r prif faterion a’r amcanion i ddelio â hwy yn y Cynllun Datblygu Lleol, ac i sefydlu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn paratoi cynllun da. Gelwir hyn yn ‘sail tystiolaeth’.

Mae datblygu’r sail dystiolaeth yma’n broses barhaus. Er mwyn cyflawni cynllun ‘cadarn’, bydd eich awdurdod yn casglu amrediad eang o wybodaeth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol er mwyn darparu sail ffeithiol i’r cynllun. Er enghraifft, cesglir gwybodaeth am stoc tai presennol yr ardal a’i gymharu â’r gofyn yn y dyfodol am dai. Bydd hyn yn helpu i benderfynu faint o dai newydd fydd eu hangen ar ardal dros gyfnod y cynllun.

Mae’n rhaid i’r CDLl annog datblygu sy’n gynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Bydd Adroddiad Gwerthusiad Cynaliadwyedd yn dangos sut yr ystyriwyd hyn.

 

Cyfleoedd i gymryd rhan

Gall eich awdurdod lleol ofyn i chi a’ch cymuned neu sefydliad lleol am wybodaeth am eich ardal. Gall aelodau’r gymuned a sefydliadau lleol helpu i ddatblygu tystiolaeth trwy ddarparu gwybodaeth fanwl am eu hardal na fydd yr awdurdod cynllunio yn ymwybodol ohoni. Gall y rhain fod yn bethau rydych chi’n meddwl sy’n gwneud yr ardal yn arbennig, neu safleoedd y credwch chi y dylid eu hystyried ar gyfer eu datblygu yn y dyfodol.

 

Cytundeb Cyflawni

Cyn dechrau gweithio ar baratoi Cynllun Datblygu Lleol, mae’n rhaid i’r awdurdod cynllunio gytuno ar ‘Gytundeb Cyflawni’ gyda Llywodraeth Cymru. Mae dwy ran i hyn:

1) Amserlen ar gyfer cynhyrchu’r cynllun, sy’n nodi pryd bydd pob cam o’r broses baratoi yn digwydd.

2) ‘Cynllun Cynnwys Cymunedau’ sy’n esbonio sut a phryd bydd yr awdurdod yn gofyn am gyfranogiad ‘cyfranddalwyr’ a’r gymuned leol yn y broses creu cynllun.

Unwaith y ceir cytundeb, mae’r Cytundeb Cyflawni yn ymrwymo’r awdurdod lleol i gynhyrchu ei CDLl yn unol â’r amserlen a ddatganwyd, a defnyddio’r dulliau ymgynghori a ddisgrifir yn y Cynllun Cynnwys Cymunedau. Os na fydd yr awdurdod yn cadw at yr amserlen, mae’n rhaid iddo gytuno ar amserlen newydd gyda Llywodraeth y Cynlluniad. Os na fydd yr awdurdod yn gwneud yr hyn a ddywedodd y byddai’n ei wneud yn y Cynllun Cynnwys Cymunedau, ystyrir hyn gan yr Arolygydd annibynnol a fydd yn edrych ar y cynllun terfynol i weld a yw’n ‘gadarn’.

 

Cyfleoedd i gymryd rhan

Mae’r rheoliadau ynghylch parataoi CDLl yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ymgynghori ag amrediad o sefydliadau ynghylch eu cynlluniau cyn arwyddo’r Cytundeb Cyflawni. Mae gan yr awdurdodau rywfaint o hyblygrwydd ynghylch sut i gynnal yr  ymgynghoriad hwn ond mae rhai grwpiau o bobl a sefydliadau sy’n rhaid ymgynghori â nhw. Am fyw o wybodaeth am hyn clicwch yma.

Unwaith y ceir cytundeb mae’r Cytundeb Cyflawni ar gael i unrhywun ei weld, un ai trwy ymweld â swyddfeydd yr awdurodd lleol neu ar wefan yr awdurdod.

 

Ymgynghoriad Cyn-Adneuo

Unwaith bydd y wybodaeth a’r dystiolaeth wedi eu casglu ac amcanion y cynllun wedi eu gosod, bydd yr awdurdodau cynllunio yn gweithio gyda sefydliadau ‘cyfranddalwyr’ a chymunedau lleol i ddatblygu ystod o opsiynau i’r dyfodol ar gyfer ardal y cynllun. Ystyrir y rhain i weld pa opsiwn, neu gyfuniad o opsiynau, sy’n fwyaf priodol ar gyfer ardal y cynllun. Mae gan awdurdodau cynllunio ddewis ynghylch sut i weithio gyda chymunedau yn y cam hwn. Mae rhai’n gweithio agos gyda chymunedau lleol yn y cam cynnar hwn o greu cynllun, oherwydd maent yn credu bydd gan y cynllun terfynol fwy o hygrededd gan y cyhoedd. Nid yw awdurdodau eraill yn ymdrechu cymaint i ddenu pobl leol i gynhyrchu a dewis opsiynau, gan gredu y bydd hyn yn arafu’r broses o baratoi’r cynllun.

Ar ôl ystyried opsiynau eang, paratoir Cynllun Datblygu Lleol Cyn-Adneuo gan yr awdurdod cynllunio. Anfonir hwn allan i ymgynghoriad cyhoeddus am leiafswm o chwech wythnos. Nid yw’n fersiwn ddrafft gyflawn o’r cynllun, ond mae’n gosod allan amcanion cyffredinol ar gyfer y cynllun a’r ‘strategaeth a ffefrir’ ar gyfer twf neu newid dros gyfnod y cynllun. Fel arfer bydd y strategaeth a ffefrir yn cynnwys opsiynau ar gyfer safleoedd datblygu mawr.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, gwahoddir cymunedau lleol a sefydliadau cyfranddalwyr i roi eu sylwadau ar y cynllun cyn-adneuo. Gall ymatebion i’r ymgynghoriad ddylanwadu ar y strategaeth a ffefrir, trwy awgrymu addasiadau neu wahaniaethau, yn ddibynnol a ydynt yn cydfynd â phrif amcanion y CDLl.

Yn y cyfnod hwn, dylai awdurdodau cynllunio ystyried a yw strategaeth y cynllun yn ‘gadarn’. Am fwy o wybodeth ynghylch yr hyn sy’n gwneud cynllun yn ‘gadarn’, cliciwch ar ‘Archwiliad’ yn y ddewislen ar yr ochr chwith. Hefyd, gall tirfeddianwyr, datblygwyr ac aelodau’r cyhoedd awgrymu ‘safleoedd posibl’ yn y cam hwn i’w cynnwys yn fersiwn ‘adnau’ y CDLl.

 

Cyfleoedd i gymryd rhan

Hwn mae’n debyg yw’r cam pwysicaf i chi a’ch cymuned os ydych am ddylanwadu ar y cynllun. Gall unrhywun gyflwyno’u sylwadau i’r awdurdod cynllunio yn ystod y cyfnod ymgynghori. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn anfon eich sylwadau, un ai trwy’r post neu ar ebost, gan ddefnyddio’r ffurflen berthnasol.

Mae ymgynghori ar y cynllun datblygu lleol cyn-adneuo yn para am leiafswm o chwech wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, gellir gweld y cynllun a’r dogfennau perthynol un ai yn swyddfeydd cynllunio y cyngor neu ar ei wefan. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, bydd y cyngor yn tynnu at ei glydd yr holl gyfraniadau a dderbyniwyd (adwaenir fel ‘sylwadau’) ac yn ysgrifennu adroddiad yn esbonio’r hyn mae’n bwriadu ei wneud yn eu cylch.

 

Cynllun adneuo

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyn-adneuo, mae’r awdurdod cynllunio yn gweithio i baratoi’r ‘Cynllun Adneuo’ terfynol. Mae hyn yn fersiwn ddrafft lawn o’r Cynllun Datblygu Lleol, sy’n seiliedig ar y dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd, ynghyd ag ymateb y gymuned i’r Cynllun Datblygu Lleol cyn-adneuo.

Mae’r cynllun adneuo yn cynnwys:

  • ‘strategaeth a ffefrir’
  • cynigion ynghylch adrannau allweddol i’w newid, i’w hadnewyddu neu eu gwarchod
  • safleoedd penodol i’w defnyddio at ddibenion penodol
  • polisïau a chynigion penodol eraill.

 

Yn cydfynd â’r cynllun adneuo mae adroddiad ymgynghori, sy’n disgrifio’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn-adneuo a sut maent wedi dylanwadu ar baratoadau’r cynllun adneuo gan yr awdurdod.

Unwaith bydd y Cynllun Datblygu Lleol wedi ei osod ar ‘adnau’ gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, ni all yr awdurdod cynllunio ei newid. Dim ond yr Arolygydd annibynnol all wneud unrhyw newidiadau i’r cynllun o hyn ymlaen ar ôl iddo archwilio’r cynllun.

 

Cyfleoedd i gymryd rhan

Unwaith bydd y cynllun wedi ei osod ar adnau, bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach am gyfnod o leiafswm o chwech wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, gall aelodau’r cyhoedd gynnig sylwadau ynghylch unrhyw agwedd o’r cynllun adneuo. Gall y sylwadau fod o blaid neu yn erbyn y cynllun. Os byddwch yn gwrthwynebu’r cynllun adneuo, bydd yn rhaid i chi esbonio pam y dylid newid y cynllun, ac os yn bosibl, dylech ddarparu rhesymau dros eich gwrthwynebiad, ynghyd â thystiolaeth gefnogol.

Gallwch awgrymu safleoedd amgen ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, neu y dylid newid ffiniau’r datblygiad. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i unrhyw newidiadau a gynigiwch, gydfynd â’r strategaeth a ffefrir ac hefyd bydd yn rhaid i chi ddangos bod unrhyw safleoedd newydd i’w datblygu yn unol â’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd. Dyma pam mae’n bwysig i gyflwyno cynigion yn y cam cyn-adneuo cynharach o baratoi’r cynllun, pan gynhelir y profion hyn gan yr awdurdod cynllunio.

Bydd copïau o’r Cynllun Adneuo ar gael yn swyddfeydd cynllunio eich awdurdod lleol ac ar ei wefan.

 

Archwiliad

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Adneuo, cyflwynir y cynllun a’i holl ddogfennau atodol i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w ‘harchwilio’ gan Arolygydd annibynnol.

Bydd yr Arolygydd annibynnol yn edrych ar y cynllun a gyflwynwyd ac ystyried sut mae’n perfformio yn erbyn deg ‘prawf cadernid’ – gellir gweld crynodeb o’r profion cadernid hyn trwy glicio yma. I wneud hyn, mae’r Arolygydd yn cynnal Archwiliad i edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael, yr holl sylwadau a wnaed (ceir crynodeb o’r rhain yn yr Adroddiad Ymgynghoriad), ac amgylchiadau arbennig ardal y Cynllun Datblygu Lleol. Hefyd mae’r Arolygydd yn ystyried cadernid y Cynllun Datblygu Lleol trwy edrych ar y Gwerthusiad Cynaliadwyedd.

Gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yn archwilio’r cynllun yn ôl dymuniad yr Arolygydd.

Yn dilyn yr Archwiliad, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu adroddiad sy’n ‘orfodol’ ar yr awdurdod cynllunio. Golyga hyn, os na fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd, bod yn rhaid i’r awdurdod cynllunio dderbyn y newidiadau sy’n ofynnol gan yr Arolygydd a mabwysiadu’r CDLl fel y’i haddaswyd. Mae hyn yn rhoi rôl llawer mwy pwysig i’r Arolygydd mewn creu cynlluniau nag oedd hi gyda’r Cynlluniau Datblygu Unedol.

 

Cyfleoedd i gymryd rhan

Amcan yr Arolygydd, ble’n bosibl, yw i gael y Cynllun Datblygu Lleol i fan ble mae’n gadarn ac y gellir ei fabwysiadu’n ddiogel. Os nad yw’r cynllun yn amlwg yn gadarn, gall yr Arolygydd argymell ei dynnu’n ôl. Fodd bynnag, â chymryd yn ganiataol bod gwiriadau cadernid wedi eu cynnal cyn cyflwyno, mae hyn yn anhebygol iawn o ddigwydd.

O leiaf chwech wythnos cyn i’r archwiliad gychwyn, dylai’r awdurdod cynllunio gysylltu â phawb sydd wedi cynnig sylwadau er mwyn rhoi cyfle iddynt i roi eu sylwadau’n ysgrifenedig neu, os yn gwrthwynebu, i wneud hynny’n bersonol yn yr archwiliad.

Bydd yr Arolygydd annibynnol yn cynnal cyfarfod cyn-archwiliad i nodi’r materion i’w trafod a fformat yr archwiliad, a gall hefyd gynnal cyfarfodydd rhaglennu a gosod agenda wedi hynny.

Gallwch fynychu a gwrando ar yr archwiliad, hyd yn oed os nad ydych yn cymryd rhan  ynddo neu heb gynnig sylwadau. Hefyd gall yr Arolygydd wahodd aelodau penodol o’r cyhoedd i siarad a darparu tystioleth i sicrhau bod y cynllun yn gadarn.

Mae’r fideo sy’n dilyn yn cyflwyno sefyllfa ffug o archwiliad Cynllun Datblygu Lleol a’i fwriad yw:

  • Eich helpu i ddeall y broses archwiliad
  • Darparu esiamplau o gamgymeriadau cyffredin i’w hosgoi

 

 

Mabwysiadu

Unwaith y cyhoeddir adroddiad yr Arolygydd, mae’n rhaid i’r awdurdod cynllunio ‘fabwysiadu’ y Cynllun Datblygu Lleol o fewn wyth wythnos. Pan fydd y Cynllun wedi ei fabwysiadu, bydd yr awdurdod cynllunio yn cyhoeddi ‘Datganiad Mabwysiadu’ i ddweud hynny.

 

Cyfleoedd i gymryd rhan

Gallwch ofyn i gael gwybod pan fo’r Cynllun wedi ei fabwysiadu. Unwaith y bydd wedi ei fabwysiadu, gallwch gael gafael ar y dogfennau canlynol gan yr awdurdod cynllunio am bris rhesymol:

  • Cynllun Datblygu Lleol a Fabwysiadwyd
  • Datganiad Mabwysiadu
  • Adroddiad yr Arolygydd
  • Adroddiad Gwerthusiad Cynaliadwyedd

Dylai’r holl ddogfennau hyn hefyd fod ar gael ar wefan yr awdurdod ac yn ei swyddfeydd cynllunio.

Unwaith y bydd wedi ei fabwysiadu, gall unrhywun geisio herio’r Cynllun yn yr Uchel Lys, cyn belled ag y gwneir y sialens o fewn chwech wythnos i’r mabwysiadu.

Unwaith y bydd y cynllun wedi ei fabwysiadu, ceir ei fonitro yn flynyddol trwy Adroddiad Monitro Blynyddol. Hefyd cynhelir adolygiad mawr o’r CDLl bob pedair blynedd. I ddarganfod ble mae eich awdurdod cynllunio lleol arni wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer eich ardal, ewch i’n tudalennau awdurdodau cynllunio lleol.

Os ydych am wybod mwy am Gynlluniau Datblygu Lleol, cliciwch ar un o’r dolenni isod:

Cynllunio Eich Cymuned: Canllaw ar Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) (taflen ar gyfer y cyhoedd)

Llawlyfr Cynllun Datblygu (Dogfen gyfeirio ar gyfer cynllunwyr yn paratoi CDLl)

 

Cwestiwn heb ei ateb?

Os ydych yn parhau i chwilio am gyngor, efallai y byddech yn gallu cael cymorth trwy ein Llinell Gymorth am ddim.

Cliciwch yma i gael mynediad i’n gwasanaeth Llinell Gymorth >>

Send this to a friend