Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Asesu Effaith Amgylcheddol

Mae'n hanfodol cael Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) ar gyfer ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau sy'n debygol o gael effaith amgylcheddol arwyddocaol. Mae'r effeithiau hyn yn cynnwys effeithiau posibl ar blanhigion, anifeiliad a phobl. Mae'n ofynnol yn dilyn Cyfarwyddeb Ewropeaidd sydd wedi ei drosi (neu ei drosglwyddo) i ddeddfwriaeth cynllunio y Deyrnas Unedig.

Rhaid i rai mathau o ddatblygiad arfaethedig gael AEA, tra ceir mathau eraill o ddatblygiad lle efallai bydd AEA yn ofynnol. Bydd eich awdurdod cynllunio yn gallu dweud wrthych a yw'n ystyried bod AEA yn hanfodol ar gyfer cais cynllunio penodol. Mae'n werth nodi bod llai nag un y cant o'r holl geisiadau cynllunio a gyflwynir bob blwyddyn yng Nghymru yn gofyn am AEA.

Canllaw cyflym

Rhaid i'r mathau canlynol o ddatblygiadau (a adwaenir fel cynigion 'Atodlen 1') gael AEA:

  • Purfeydd olew
  • Gorsafoedd ynni mawrion (yn cynnwys niwclear)
  • Safleoedd gwaith ailbrosesu, storio a gwaredu niwclear
  • Gweithfeydd haearn a dur
  • Gweithfeydd prosesu asbestos
  • Gweithfeydd cemegol
  • Traffyrdd a phrif ffyrdd
  • Rheilffyrdd
  • Meysydd awyr
  • Dyfrffyrdd mewndirol
  • Porthladdoedd
  • Gweithfeydd trin cemegion, llosgi a gwaredu gwastraff
  • Prif weithfeydd tynnu dwr, gweithfeydd trin dwr a chyfleusterau trosglwyddo dwr
  • Tynnu nwy a phetrol masnachol
  • Argaeau mawrion a phibellau llydan
  • Ffermydd ffatri mawrion
  • Gweithfeydd papur a mwydion
  • Chwareli mawrion a gwaith glo brig
  • Safleoedd mawrion storio cemegion a phetrol

Yn yr achosion hyn oll rhaid cyflwyno Datganiad Amgylcheddol gyda'r cais cynllunio. Mae'r Datganiad yn ddogfen gyhoeddus sy'n golygu yr ystyrir unrhyw sylwadau a wneir arni yn yr asesiad o effeithiau amgylcheddol posibl.

Adwaenir mathau eraill o ddatblygiad arfaethedig fel cynigion 'Atodlen 2'. Mae'r rhain yn cynnwys amrediad eang o ddatblygiad efallai fydd angen AEA, dim ond os bydd y datblygiad yn gorchuddio llain fawr o dir. Yn yr achosion hyn, bydd yr awdurdod cynllunio yn penderfynu a yw AEA yn angenrheidiol (a elwir yn 'sgrinio'). Os ydy, bydd yr awdurdod yn gofyn am gyflwyno Datganiad Amgylcheddol a bydd ar gael i'w weld gan y cyhoedd er mwyn iddynt roi sylwadau.

Os bydd awdurdod yn penderfynu bod angen cael Datganiad Amgylcheddol, gall yr unigolyn sy'n cyflwyno'r cais cynllunio (yr 'ymgeisydd') ofyn am 'farn cwmpasu'. Golyga mai'r awdurdod cynllunio fydd yn dweud beth ddylid ei gynnwys yn y Datganiad. Os nad yw'r ymgeisydd yn fodlon â hyn gall ofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru am 'Gyfarwyddyd Sgrinio' neu 'Gyfarwyddyd Cwmpasu'.

Mwy o wybodaeth am Asesiad Effaith Amgylcheddol

Cewch fwy o wybodaeth am Asesiad Effaith Amgylcheddol yng Nghylchlythyr 11/99 y Swyddfa Gymreig – cliciwch yma i'w weld.