Mae awdurdodau cynllunio'n gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn unol â thri ffactor allweddol:
- Canllaw polisi cynllunio cenedlaethol
- Y polisïau yng nghynllun datblygu yr awdurdod lleol – gall hyn fod yn Gynllun Lleol, yn Gynllun Datblygu Unedol neu'r math newydd o Gynllun Datblygu Lleol
- 'Ystyriaethau perthnasol' eraill megis hanes cynllunio'r safle ac unrhyw gynsail a osodwyd gan ddatblygiadau sy'n bodoli eisoes.

Gwneir penderfyniadau un ai gan swyddogion cynllunio (dan 'bwerau dirprwyedig') neu gan bwyllgor cynllunio sef cynghorwyr lleol.
Dyma beth all ddigwydd i geisiadau cynllunio:
- Cymeradwyo: Golyga hyn y rhoddir caniatâd cynllunio a rhoddir 'hysbysiad penderfyniad' i'r ymgeisydd. Fel arfer mae'r hysbysiad penderfyniad yn cynnwys nifer o 'amodau cynllunio' a osodir gan yr awdurdod i sicrhau y bydd y datblygiad yn digwydd heb achosi niwed.
- Gwrthod: Golygir na roddwyd caniatâd cynllunio a bydd yr ymgeisydd yn derbyn hysbysiad gwrthod. Dylai'r hysbysiad roi rhesymau am wrthod y cais.
- Gohirio: Golyga hyn bod y pwyllgor cynllunio wedi penderfynu ymweld â'r safle, neu bod angen mwy o wybodaeth arnynt cyn gwneud penderfyniad. Fel arfer, ystyrir cais gohiriedig yn y pwyllgor cynllunio nesaf.
Os ydych am ddarganfod mwy ynghylch pam y gwnaed penderfyniad penodol ar gais cynllunio gallwch gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol i ofyn am gopi o adroddiad y swyddog cynllunio. Rhydd hwn esboniad llawnach o'r rhesymau dros wneud y penderfyniad.