Os gwrthodir cais cynllunio, mae gan y person wnaeth y cais (yr 'ymgeisydd') hawl i apelio. Ni all unrhyw un arall (a adwaenir yn nhermau cynllunio fel 'trydydd parti') apelio yn erbyn y penderfyniad. Os oeddech yn cytuno â'r penderfyniad i wrthod a bod yr ymgeisydd yn penderfynu cyflwyno apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio, cewch gyfle arall i roi sylwadau ar yr apêl. Am fwy o wybodaeth ynghylch apeliadau cliciwch yma.
Os cymeradwyir y cais nid oes hawl i apelio. Ond os ydych yn teimlo na wnaethpwyd y penderfyniad yn deg, gallwch gwyno trwy broses cwynion swyddogol yr awdurdod cynllunio. Os nad ydych wedi eich bodloni mae gennych hawl i gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. I ddarganfod mwy am yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, cliciwch yma.
Arolwg Barnwrol
Arolwg cyfreithiol ar benderfyniad awdurdod cynllunio i gymeradwyo cais cynllunio yw Arolwg Barnwrol. Mae Arolwg Barnwrol yn cymryd lle yn yr Uchel Lys ac yn ystyried a yw'r penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod cynllunio lleol yn deg. Mae'r arolwg yn edrych ar y ffordd y gwnaethpwyd y penderfyniad – nid yw'n ystyried y canlyniad daeth yr awdurdod cynllunio iddo.
Dim ond 'trydydd parti' â diddordeb digonol yn y caniatâd cynllunio all ofyn am arolwg. Rhaid ymgeisio am arolwg cyn gynted â phosibl ac o leiaf o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr penderfyniad. Nodwch bod rhaid bod yn ofalus iawn yma – gall arolwg barnwrol fod yn ddrud iawn a dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gweithredu.
Cofiwch, os rhoddir caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y Cynulliad ac nid yr awdurdod cynllunio lleol, rhaid herio'r penderfyniad gydag Arolwg Barnwrol o fewn chwech wythnos.
Rhennir y broses arolygu yn ddwy ran. Yn gyntaf, rhaid i'r person sy'n gofyn am yr arolwg ofyn am ganiatâd gan y Llys Gweinyddol i fynd ymlaen â'r arolwg. Os rhoddir caniatâd, ail ran y broses yw'r gwrandawiad ei hun.
Os ydych yn ystyried mynd am arolwg barnwrol, cliciwch yma am ganllawiau mwy manwl.
Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn cychwyn proses arolwg barnwrol oherwydd efallai bydd rhaid ichi dalu costau os bydd yr arolwg o'r penderfyniad yn methu.