Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Gorfodaeth cynllunio

Mae awdurdodau cynllunio lleol yn gweithredu gorfodaeth cynllunio i atal effeithiau annymunol datblygiad sydd heb y caniatâd cynllunio dilys. Mae'n dod â datblygiad anawdurdodedig dan reolaeth i gynnal a chadw ansawdd yr amgylchedd lleol a mwyniant y bobl leol.

Gellir defnyddio gorfodaeth i sicrhau:

  • bod datblygiad (gwaith adeiladu a / neu newid defnydd) yn digwydd gyda'r caniatâd cynllunio angenrheidiol;
  • lle bo caniatâd, bod holl amodau'r caniatâd cynllunio yn cael eu cyflawni;
  • na thramgwyddir ar adrannau eraill rheolaeth cynllunio. Mae hyn yn cynnwys arddangos hysbysebion a gwaith mewn ardaloedd cadwraeth ac ar adeiladau rhestredig;
  • na chedwir tir a / neu adeiladau mewn cyflwr anniben.

Sut mae'n gweithio?

Nid yw gorfodaeth yn digwydd yn awtomatig os darganfyddir tramgwyddo rheolaeth cynllunio. Mewn gwirionedd, efallai bydd rhaid i'r awdurdod cynllunio dalu costau rhywun sy'n apelio yn erbyn llythyr gorfodaeth os mai'r unig reswm dros ei gyflwyno oedd na roddwyd caniatâd cynllunio.

Y dull mwyaf cyffredin o weithredu yw cyflwyno Hysbysiad Gorfodaeth gan yr awdurdod cynllunio. Golyga hyn bod rhaid unioni'r tramgwydd yn erbyn rheolaeth cynllunio. Yn amlach na dim, nid aiff awdurdod ar drywydd cyflwyno Hysbysiad Gorfodaeth, ond yn hytrach gofyn i'r person gyflwyno cais cynllunio i unioni'r datblygiad. Os rhoddir caniatâd, fel arfer rhoddir amodau ar y caniatâd – gellir gorfodi rhain os na chydymffurfir â hwy.

Sut i gwyno

Os ydych yn poeni ynghylch gweithred neu ddatblygiad y credwch chi sydd yn tramgwyddo rheolau cynllunio, dylech ffonio eich awdurdod cynllunio lleol a gofyn am siarad gyda swyddog gorfodaeth cynllunio. Neu, gallwch gysylltu â'ch cynghorydd lleol a gofyn iddo ef / iddi hi i fynd ar drywydd y mater ar eich rhan. Bydd eich awdurdod lleol yn gallu dweud wrthych pwy yw eich cynghorydd lleol.

Mae'n bwysig eich bod yn ategu eich cwyn ar lafar gyda llythyr yn datgan manylion yr achos yn eich tyb chi. Dylech hefyd ofyn am gael gwybodaeth gyfredol ynghylch unrhyw weithredu gan y cyngor. Bydd hyn yn sicrhau bod y swyddog gorfodaeth yn gwybod beth sy'n achosi pryder i chi ac hefyd yn gofnod o'ch cwyn. Gallwch ofyn am i'ch cwyn fod yn gyfrinachol ond cofiwch, os bydd y mater yn symud i apêl neu achos llys, efallai y gofynnir i chi roi tystiolaeth. Ambell waith ni ymholir i gwynion a wneir yn ddienw – mae'n dibynnu ar bolisi'r awdurdod cynllunio.

Mae'r system gynllunio'n bodoli i ddiogelu buddiannau'r cyhoedd felly peidiwch â bod ofn â'i defnyddio os credwch chi bod rhywbeth yn digwydd heb ganiatâd cynllunio dilys.

Os ydych am gael gwybodaeth fwy manwl am y rhan hon o gynllunio yna cliciwch yma i lawrlwytho ein cyhoeddiad canllaw ar orfodaeth cynllunio.