Cyn cychwyn paratoi Cynllun Datblygu Lleol, rhaid i'r awdurdod cynllunio gytuno ar 'Gytundeb Cyflawni' gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae iddo ddwy ran:
1) Amserlen ar gyfer cynhyrchur cynllun, yn nodi pryd fydd pob cam o'r broses baratoi yn digwydd,
2) 'Cynllun Cynnwys Cymunedau' sy'n egluro sut a phryd bydd yr awdurdod yn cynnwys 'rhanddeiliaid' a'r gymuned leol ym mhroses creu'r cynllun.
Unwaith y bydd cytundeb mae'r Cytundeb Cyflawni'n ymrwymo'r awdurdod lleol i gynhyrchu y CDLl yn ôl yr amserlen a ddatganwyd gan ddefnyddio'r dulliau ymgynghori a ddisgrifir yn y Cynllun Cynnwys Cymunedau. Os na fydd yr awdurdod yn cadw at yr amserlen, rhaid iddo gytuno ar amserlen newydd gyda Llywodraeth y Cynulliad. Os na fydd yr awdurdod yn gwneud beth addawodd wneud yn y Cynllun Cynnwys Cymunedau, ystyrir hyn gan yr Arolygydd annibynnol fydd yn edrych ar y cynllun terfynol i weld a ydyw yn 'gadarn'.
Cyfleoedd i gymryd rhan
Golyga'r rheoliadau sy'n rheoli paratoad CDLl bod rhaid i awdurdodau cynllunio ymgynghori ag amrediad o sefydliadau ynghylch eu cynlluniau cyn arwyddo'r Cytundeb Cyflawni. Gall yr awdurdodau fod yn hyblyg wrth ddewis sut i ymgynghori ond mae'n rhaid ymgynghori â rhai grwpiau o bobl a sefydliadau. Am fyw o wybodaeth am hyn cliciwch yma.
Unwaith y cytunir ar y Cytundeb Cyflawni mae ar gael i bawb ei weld, un ai trwy ymweld â swyddfeydd eich awdurdod lleol neu drwy edrych ar wefan yr awdurdod.