Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Cynllun Adneuo

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyn-adneuo, bydd yr awdurdod cynllunio'n gweithio i baratoi 'Cynllun Adneuo' terfynol. Fersiwn ddrafft lawn yw hon o'r Cynllun Datblygu Lleol, sy'n seiliedig ar y dystiolaeth a'r wybodaeth a gasglwyd ac ar ymateb y gymuned i'r Cynllun Datblygu Lleol cyn-adneuo.

Mae'r cynllun adneuo yn cynnwys:

  • 'strategaeth a ffafrir'
  • cynigion ar gyfer ardaloedd allweddol i'w newid, adfywio neu eu gwarchod
  • safleoedd penodol i'w defnyddio at ddibenion penodol
  • polisïau a chynigion penodol eraill

I gyd-fynd â'r cynllun adneuo mae adroddiad ymgynghoriad sy'n disgrifio'r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn-adneuo a sut maent wedi dylanwadu ar baratoad cynllun datblygu yr awdurdod.

Unwaith bydd y Cynllun Datblygu Lleol wedi ei 'adneuo' i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ni all yr awdurdod cynllunio ei newid. Dim ond yr Arolygydd annibynnol fydd yn archwilio'r cynllun all wneud unrhyw newidiadau i'r cynllun o hyn ymlaen.

Cyfleoedd i gymryd rhan

Unwaith y rhoddir y cynllun ar adnau, bydd ymgynghoriad cyhoeddus pellach am o leiaf chwech wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn gall aelodau'r cyhoedd roi sylwadau ar unrhyw agwedd o'r cynllun adneuo. Gall y sylwadau fod o blaid neu yn ei erbyn. Os ydych yn gwrthwynebu’r cynllun adneuo, rhaid i chi esbonio pam y dylid newid y cynllun, ac os yn bosibl, dylech roi rhesymau dros eich gwrthwynebiad ynghyd â thystiolaeth gefnogol.

Gallwch awgrymu safleoedd gwahanol ar gyfer datblygu yn y dyfodol neu newidiadau i ffiniau anheddiadau. Fodd bynnag, bydd rhaid i unrhyw newidiadau y cynigiwch chi ffitio i mewn gyda'r strategaeth a ffafrir ac hefyd bydd rhaid i chi ddangos bod unrhyw safleoedd datblygu newydd yn unol â'r Arfarniad o Gynaliadwyedd. Dyna pam mai hi mor bwysig i gyflwyno cynigion yn ystod cyfnod cyn-adneuo yn gynharach yn y broses, pan wneir y profion hyn gan yr awdurdod cynllunio.

Bydd copïau o'r Cynllun Adneuo ar gael yn swyddfeydd eich awdurdod cynllunio lleol neu ar eu gwefan.