Ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus yr a Cynllun Adneuo, rhoddir y cynllun a'r holl dogfennau atodol i'r Arolygiaeth Gynllunio i'w 'harchwilio' gan Arolygydd annibynnol.
Bydd yr Arolygydd annibynnol yn edrych ar y cynllun a gyflwynwyd ac yn ystyried sut mae'n perfformio yn erbyn deg 'prawf cadernid' – ceir crynodeb o'r profion cadernid hyn trwy glicio yma. I wneud hyn, mae'r Arolygydd yn cynnal Archwiliad i edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael, yr holl sylwadau a wnaed (ceir crynodeb o hyn yn yr Adroddiad Ymgynghoriad) ac amgylchiadau penodol ardal y Cynllun Datblygu Lleol. Hefyd, bydd yr Arolygydd yn ystyried cadernid y Cynllun Datblygu Lleol trwy edrych ar y Arfarniad o Gynaliadwyedd.
Gall aelodau'r cyhoedd gymryd rhan yn archwiliad y cynllun trwy wahoddiad yr Arolygydd.
Yn dilyn yr Archwiliad, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu adroddiad sy'n 'orfodol' ar yr awdurdod cynllunio. Golyga hyn bod rhaid i'r awdurdod cynllunio dderbyn y newidiadau sy'n ofynnol gan yr Arolygydd a mabwysiadu'r CDLl diwygiedig - os na fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymyrryd. Rhydd hyn rôl pwysicach i'r Arolygydd yn y broses o wneud cynllun nag a oedd yn achos y Cynlluniau Datblygu Unedol.
Amcan yr Arolygydd, lle bo'n bosibl, yw cael y cynllun Datblygu Lleol i gyflwr cadarn a ellir ei fabwysiadu'n ddiogel. Os yw hi'n amlwg nad yw'r cynllun yn gadarn, gall yr Arolygydd awgrymu ei dynnu'n ôl. Fodd bynnag, a bwrw y gwnaethpwyd profion cadernid cyn cyflwyno, mae hyn yn anhebygol iawn o ddigwydd.
Cyfleoedd i gymryd rhan
O leiaf chwech wythnos cyn cychwyn yr archwiliad, dylai'r awdurdod cynllunio gysylltu â phawb wnaeth sylwadau i gynnig cyfle iddynt i roi eu sylwadau mewn ysgrifen neu, os yn gwrthwynebu, i wneud hyn yn bersonol yn yr archwiliad.
Bydd yr Arolygydd annibynnol yn cynnal cyfarfod cyn-archwiliad i nodi'r materion i'w trafod a fformat yr archwiliad ac efallai bydd yn cynnal cyfarfodydd rhaglennu a gosod agenda ar ôl hyn.
Gallwch fynychu a gwrando ar yr archwiliad, hyd yn oed os nad ydych yn cymryd rhan ynddo neu os nad ydych wedi cyflwyno sylwadau. Hefyd, gall yr Arolygydd wahodd rhai aelodau o'r cyhoedd i siarad a darparu tystiolaeth i sicrhau bod y cynllun yn gadarn.