Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Ymgynghoriad Cyn-Adneuo

Unwaith y bydd yr wybodaeth a'r dystiolaeth wedi'i gasglu ac amcanion y cynllun wedi'u gosod, bydd awdurdodau cynllunio'n gweithio gyda sefydliadau 'rhandeiliaid' a chymunedau lleol i ddatblygu ystod o opsiynau at y dyfodol ar gyfer ardal y cynllun. Ystyrir rhain i weld pa opsiwn neu gyfuniad o opsiynau sy'n fwyaf addas ar gyfer ardal y cynllun. Mae awdurdodau cynllunio yn gallu dewis sut i weithio gyda chymunedau yn ystod y cam hwn. Mae rhai'n gweithio'n agos gyda chymunedau lleol yn y cyfnod cynnar hwn o baratoi cynllun oherwydd credant y bydd y gymuned yn ymddiried yn well yn y cynllun terfynol wedyn. Nid yw rhai awdurdodau eraill yn ymdrechu llawer i gynnwys pobl leol mewn cynhyrchu a dewis opsiynau oherwydd credant bydd hyn yn arafu proses paratoi’r cynllun.

Wedi ystyried yr opsiynau bras, paratoir Cynllun Datblygu Lleol Cyn-adneuo gan yr awdurdod cynllunio. Cyflwynir hwn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am o leiaf chwech wythnos. Nid fersiwn ddrafft lawn o'r cynllun ydyw ond mae'n cyflwyno prif amcanion yr awdurdod ar gyfer y cynllun a'r 'strategaeth a ffafrir' ar gyfer tyfu neu newid dros gyfnod y cynllun. Fel arfer bydd y strategaeth a ffafrir hon yn cynnwys opsiynau ar gyfer y prif safleoedd datblygu.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, gwahoddir cymunedau lleol a sefydliadau sy'n rhanddeiliaid i roi eu sylwadau ar y cynllun cyn-adneuo. Gall ymatebion i’r ymgynghoriad effeithio ar y strategaeth a ffafrir trwy awgrymu addasiadau neu awgrymiadau eraill, ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â phrif amcanion y CDLl.

Yn ystod y cam hwn dylai awdurdodau cynllunio ystyried a yw strategaeth y cynllun yn 'gadarn'. Am fwy o wybodaeth ynghylch beth sy'n gwneud cynllun 'cadarn', cliciwch ar 'Archwiliad' yn y ddewislen ar yr ochr chwith. Hefyd, yn ystod y cyfnod hwn, gall tirfeddianwyr, datblygwyr ac aelodau o'r cyhoedd awgrymu 'safleoedd posibl' i'w cynnwys efallai yn fersiwn 'adneuo' y CDLl.

Cyfleoedd i gymryd rhan

Mae'n debyg mai dyma'r cyfnod pwysicaf i chi a'ch cymuned os ydych am ddylanwadu ar y cynllun. Gall unrhyw un gyflwyno eu sylwadau i'r awdurdod cynllunio yn ystod y cyfnod ymgynghoriad. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn anfon eich sylwadau un ai gyda'r post neu ebost, gan ddefnyddio'r ffurflen berthnasol.

Mae ymgynghoriad ar y cynllun datblygu lleol cyn-adneuo yn parhau am o leiaf chwech wythnos. Yn ystod yr amser hwn, gellir gweld y cynllun a dogfennau perthnasol un ai yn swyddfeydd cynllunio'r cyngor neu ar eu gwefan. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghoriad, bydd y cyngor yn casglu at ei gilydd yr holl sylwadau a dderbyniwyd ac yn ysgrifennu adroddiad yn esbonio beth mae'n bwriadu ei wneud yn eu cylch.