Bespoke training for town councillors

Planning Aid Wales volunteers delivered a successful bespoke training session on planning policy for Dinas Powys Town Council, South Wales, in March this year. The council contacted us for help on responding to the Vale of Glamorgan Local Development Plan in February, shortly before the council released a draft of the plan. Our volunteers used their expertise in planning policy to deliver a bespoke training session giving an overview of the planning policy process. They also gave advice on making a well-balanced response to the consultation.

We encourage individuals and organisations to engage with planning policy and, in the case of Local Development Plans, to get involved as early as possible. You are more likely to influence planning issues that affect you in your locality if you get involved and have a say during the early stages in the preparation of the Local Development Plan. We offer a wide range of training on planning policy, local development plans and specific planning issues. These are delivered by our expert team of staff and volunteers, so don’t hesitate to get in touch using the details below, the sooner the better.

For more information on the Local Development Plan for your area click here.

For more information on the training offered by Planning Aid Wales, contact Sioned on 02920 625 004 or email [email protected]

Ym mis Mawrth eleni, cyflwynodd gwirfoddolwyr Cymorth Cynllunio Cymru sesiwn hyfforddiant pwrpasol, llwyddiannus, ar bolisi cynllunio i Gyngor Tref Dinas Powys, De Cymru. Ym mis Chwefror, cysylltodd y cyngor â ni am gymorth i ymateb i Gynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg, ychydig cyn i’r cyngor ryddhau drafft o’r cynllun. Defnyddiodd ein gwirfoddolwyr eu harbenigedd mewn polisi cynllunio i draddodi sesiwn hyfforddiant pwrpasol gan roi trosolwg o’r broses polisi cynllunio. Hefyd rhoesant gyngor ar roi ymateb cytbwys i’r ymgynghoriad.

Rydym yn annog unigolion a sefydliadau i ymgysylltu â pholisi cynllunio ac yn achos Cynlluniau Datblygu Lleol, i gymryd rhan mor gynnar â phosibl. Rydych yn llawer mwy tebygol o ddylanwadu ar faterion cynllunio sy’n effeithio ar eich ardal os gymerwch chi ran a dweud eich dweud yng nghyfnodau cynnar paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Rydym yn cynnig ystod eang o hyfforddiant ar bolisi cynllunio, cynlluniau datblygu lleol a materion cynllunio penodol. Traddodir rhain gan ein tîm arbenigol o staff a gwirfoddolwyr, felly cofiwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio’r manylion isod – a gorau po gyntaf.

Am fwy o wybodaeth ar y Cynllun Datblygu Lleol yn eich ardal chi cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth ar yr hyfforddiant a gynigir gan Gymorth Cynllunio Cymru cysylltwch â Sioned ar 02920 625 004 neu ebostiwch [email protected]

Share via
Share via
Send this to a friend