Cyflwyniad i Gynllunio

This event has ended

Sesiwn gyflwyno, neu loywi, ar gyfer cynghorwyr newydd, neu’r rhai sydd am wybod mwy am y system gynllunio. Ffocws arbennig ar ble a sut y gall cynghorau Cymuned a Thref effeithio ar gynllunio a sicrhau y clywir llais y gymuned.

Cynhelir y sesiwn hyfforddi am 2.5 awr, gyda saib am 15 munud. Mae’n hollol ryngweithiol gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a chael atebion drwyddi draw. Darperir lluniaeth.

Bydd y sesiwn hyfforddi hon yn darparu:

  • Trosolwog o’r system gynllunio a’r chwaraewyr allweddol sydd ynghlwm
  • Esboniad o rôl Cynghorau Cymuned a Thref mewn cynllunio
  • Golwg ar ymrwymiad y gymuned mewn paratoi Cynllun Datblygu Lleol
  • Mewnwelediad ar sut y penderfynir ar geisiadau cynllunio
  • Disgrifiad o’r newidiadau diweddar i’r system gynllunio. Yn cynnwys cyflwyno ymgynghoriad cymunedol cyn-cais a Chynlluniau Cynefin

 

Archebwch nawr ar Eventbrite >>