Cyflwyniad i Orfodaeth Cynllunio

This event has ended

Bydd y cwrs hwn o hyfforddiant yn canolbwyntio ar y broses gorfodaeth, yn archwilio sut mae gorfodaeth o fudd i’n hamgylchedd adeiledig ac hanesyddol. Bydd y cwrs yn edrych yn fanwl ar sut mae awdurdodau lleol yn penderfynu a ddylent weithredu gorfodaeth, yr offer gorfodaeth y gallant ei ddefnyddio pe baent yn penderfynu gwneud hynny a’r broses apeliadau yn erbyn gorfodaeth.

Mae’r cwrs yn ddelfrydol i unrhywun sydd â chwestiynau ynghylch y broses gorfodaeth cynllunio a sut y gellir ei defnyddio i fod o fudd i gymunedau.

Bydd y sesiwn hyfforddi yn para am 2.5 awr gyda saib am 15 munud. Mae’n hollol ryngweithiol gyda chyfleoedd i holi ac ateb drwyddi draw.

Bydd y sesiwn hyfforddi yn darparu:

  • Trosolwg byr o gynllunio a rheolaeth datblygu.
  • Esbonio, “Beth yw gorfodaeth cynllunio?”
  • Mewnwelediad i sut mae’r broses gorfodaeth yn gweithio.
  • Trafodaeth ar yr hyn sy’n destun i “orfodaeth”?
  • Edrych ar hawliau yr unigolyn / unigolion neu’r busnes sy’n destun i orfodoaeth.
  • Canllaw ar sut i weithredu dan weithdrefnau gorfodaeth cynllunio.
  • Gwybodaeth ar apeliadau gorfodaeth
Archebwch nawr ar Eventbrite >>