Cynllunio Prosiect wedi ei arwain gan gymuned ar Ynni Adnewyddadwy

This event has ended

Ydych chi’n ystyried cynllunio prosiect wedi ei arwain gan y gymuned ar ynni adnewyddadwy ar gyfer eich cymuned neu a hoffech chi wybod mwy am y fath brosiectau?

Mae Newid Hinsawdd a lleihad mewn Co2 yn y penawdau newyddion unwaith eto. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn targedu bydd 70% o ddefnydd trydan yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Fodd bynnag, gall prosiectau ynni adnewyddadwy, megis ffermydd melinau gwynt, achosi teimladau cymysg o fewn cymunedau lleol, felly efallai byddai prosiectau a arweinir gan y gymuned yn un ffordd i ymgymryd â datblygiadau a helpu i gyflawni targed y Llywodraeth?

 

Archebwch nawr ar Eventbrite >>