Deall Rhwymedigaethau Cynllunio Adran 106

This event has ended

Gall Rhwymedigaethau Cynllunio fod ar sawl ffurf ac yn gyffredinol fe’u hystyrir fel cytundeb Adran 106. Yn gyffredinol, maent yn gytundeb rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol ynghylch mesurau a all gynorthwyo lleihau effaith datblygiadau newydd ar gymunedau a seilwaith. Fodd bynnag, nodir yn aml nad yw cymunedau lleol yn teimlo’u bod yn deal sut mae’r fath gytundebau’n gweithio mewn ymarfer. Mae’r digwyddiad hyfforddi hwn yn darparu sesiwn ryngweithiol i archwilio:

  • Beth yw Rhwymedigaethau Cynllunio?
  • Sut maent yn cael eu trafod?
  • Disgrifio sut mae datblygwyr yn delio ag arian datblygu a hyfywedd a chaniatáu cymunedau lleol a chynrychiolwyr i ddeall goblygiadau ariannol unrhyw ddatblygiad.
  • A ellir eu haddasu neu eu dileu?
  • Gorfodaeth Rhwymedigaethau Cynllunio
  • Esboniad byr o ardoll seilwaith cymunedol.
  • Sut gall cymunedau ymgysylltu â’r broses hon a beth yw’r buddion i gymunedau lleol?
Archebwch nawr ar Eventbrite >>