Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Astudiaethau achos

Teulu gyda mab anabl yn ymladd am amgae diogel

Dros y chwe blynedd mae Mrs A. a'i mab wedi byw yn eu cartref, mae'r heol tu hwnt i'r ardd ffrynt wedi prysuro. Mae gan fab Mrs A syndrom Down ac mae e'n treulio llawer o'i amser yn yr ardd lle mae'n weddol ddiogel i ffwrdd o berygl y ceir sy'n mynd heibio. Penderfynodd Mrs A. adeiladu wal ardd newydd oedd yn uwch er mwyn sicrhau diogelwch ei mab ond nid oedd yn gwybod bod angen cael caniatâd cynllunio arni.

Fel yr oedd y wal yn cael ei hadeiladu, cyflwynwyd hysbysiad gorfodi gan yr awdurdod cynllunio lleol i ddymchwel y wal - roedd un medr yn uwch na'r hyn a ganiateir ar hyd heol dan hawliau datblygiad a ganiateir. Daeth Mrs A. o hyd i rif ein Llinell Gymorth yng nghanllaw yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau gorfodi, galwodd i esbonio ei sefyllfa a gofynnodd am help. Rhoesom gymorth i baratoi datganiad apêl ac esbonio na fyddai ffi oherwydd bod y datblygiad er diogelwch ei mab anabl. Mae Mrs A. yn ddiolchgar iawn am y cyngor a gafodd gan Gymorth Cynllunio Cymru ac yn disgwyl ateb i'w hapêl.

Grŵp cymunedol lleol yn gwrthwynebu cynllun tai sylweddol yn llwyddiannus

Cysylltodd grŵp cymunedol yn Sir y Fflint â Chymorth Cynllunio Cymru yn gofyn am help i wrthwynebu, mewn ymchwiliad cyhoeddus, ddatblygiad sylweddol o dai newydd yn eu hardal. Roedd pobl leol yn ansicr o'u hawliau a gweithdrefnau'r ymchwiliad, felly mynychodd Meic Jones, gwirfoddolwr, gyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan y grŵp. Cynghorodd ef ar faterion cynllunio, atebodd gwestiynau a gwrandawodd ar sylwadau gan y grŵp cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd. Hefyd gwnaeth Meic awgrymiadau ar sut i wella'r datganiadau a'r llythyrau gwrthwynebu a baratowyd gan y grŵp i sicrhau eu bod yn berthnasol a chryno. Er mawr ryddhad i'r bobl leol, tynnwyd y cais yn ôl cyn i'r ymchwiliad gymryd lle. Wedi hyn, ysgrifennodd cynrychiolydd o'r grŵp cymunedol i ddweud: 'Gwerthfawrogwyd help Cymorth Cynllunio Cymru'n fawr iawn; rhoesant hyder inni wybod ein bod wedi gwneud ein hymchwil yn dda a'n bod yn gwrthwynebu ar y llinellau cynllunio cywir. Byddem yn defnyddio'r gwasanaeth hwn eto yn bendant.'

Teulu teithwyr yn cael eu trin yn deg

Mae Mrs C. a'i theulu yn Deithwyr sydd wedi ymsefydlu mewn ardal ddiwylliannol fach ar gyrion Casnewydd, De Cymru. Mae cenedlaethau o'i theulu wedi byw a gweithio yn yr ardal felly roeddent wrth eu bodd pan brynasant ddarn bach o dir drws nesaf i anheddle bach lle mae ganddynt gysylltiadau teuluol. Rhoesant eu carafán ar y safle gan gymryd yn ganiataol bod caniatâd cynllunio ar gyfer carafanau, ond darganfuwyd bod y caniatâd ond yn ddilys ar gyfer y cyn berchnogion.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymwelodd swyddog cynllunio â'r safle a dweud y byddai'n rhaid iddynt ofyn am ganiatâd cynllunio i aros. Nid oedd Mrs C. na'i theulu yn gallu darllen nac ysgrifennu felly daethant ar y ffôn gyda CCC i gael cymorth. Rhoesom gymorth i baratoi datganiad amgylchiadau personol i'r teulu i gefnogi eu cais cynllunio. Buom mewn cysylltiad â'r awdurdod lleol ac eraill hefyd i sicrhau bod cyfathrebu da rhwng yr holl bobl oedd yn ymwneud â'r achos.

Yn anffodus mae'r safle ar orlifdir ac yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, felly gwrthodwyd y cais. Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth cynllunio i'r teulu, yn cysylltu â'r awdurdod lleol ac eraill yn ôl y gofyn. Mae Mrs C yn ystyried eu hopsiynau nawr ac efallai bydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad, gyda help gan Gymorth Cynllunio Cymru.