Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Llawlyfr cynllunio newydd i Sipsiwn a Theithwyr

16 Chwef 2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd gyhoeddi llyfryn â'r teitl Cynllunio ar gyfer Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr, a gafodd ei baratoi gan Gymorth Cynllunio Cymru. Mae'n esbonio mewn iaith syml y rheolau a threfniadau ar gyfer sefydlu safleoedd newydd i Sipsiwn a Theithwyr. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ar hawliau pobl sy'n byw ar safle heb ganiatâd cynllunio. A cewch awgrymiadau lle gallwch fynd am ragor o gymorth neu wybodaeth.

Cafodd y lluniau yn y llyfryn eu cynhyrchu gan fyfyrwyr y Monkton Priory Project yn Sir Benfro. Hoffai Cymorth Cynllunio Cymru ddiolch o galon i'r myfyrwyr am eu gwaith campus, a hefyd i Andrée Morgan-Andrews, Bev Stevens, Charlotte Cortazzi, Kay Powell, Max Smith, Pauline Le Britton, Steve Ball a Susan Alexander am eu cyfraniadau gwerthfawr at y prosiect.

Gallwch lawrlwytho'r llyfryn oddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad ar http://new.wales.gov.uk/topics/planning/policy/guidance/andtcaravansites/?skip=1&lang=cy. Mae copïau papur ar gael am ddim oddi wrth Y Ganolfan Gyhoeddiadau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ; ffôn: 02920 823 683; e-bost: assembly-publications@wales.gsi.gov.uk.