Newyddion
Swyddog Hyfforddi newydd
23 Tach 2009Bydd tîm Cymorth Cynllunio Cymru'n tyfu o fis Rhagfyr ymlaen. Bydd Maria Allen yn ymuno â ni fel ein Swyddog Hyfforddi cyntaf un. Diben y swydd yw cydlynu gwasanaethau hyfforddi Cymorth Cynllunio Cymru a'u datblygu ymhellach.
Felly os ydych am logi hyfforddwr cynllunio am sesiwn gyda'r hwyr, os hoffech inni ddylunio diwrnod hyfforddi'n arbennig ar eich cyfer chi a'ch grŵp neu fod gennych syniad am brosiect meithrin gallu ar y cyd, bydd Maria yno i'ch helpu. Gellir cael gafael arni yn swyddfa Caerdydd i ddechrau.