Cymorth Cynllunio Cymru / Planning Aid Wales

Gwnewch gyfraniad

Adran y cynghorau cymuned a thref

Mae'r adran yma o'r wefan yn dal i gael ei adeiladu.

Yn y cyfamser defnyddiwch yr adran gyffredinol ar y cyd â'n taflenni ffeithiau arbenigol i gynghorau cymuned a thref.


Newyddion diweddaraf

Hyfforddiant ac adnoddau cynllunio ar gyfer cynghorau cymuned a thref

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wrthi'n paratoi cyfres gynhwysfawr o ddeunyddiau hyfforddi ar gyfer cynghorau cymuned a thref, gyda nawdd gan Lywodraeth y Cynlluniad.

Un rhan o'r deunyddiau'n bydd pump 'pecyn gweithgareddau' sy'n cynnwys yr holl gyfarwyddiadau ac adnoddau sydd eu hangen er mwyn i gynghorau gynnal eu sesiynau hyfforddi eu hun ar agweddau allweddol o cynllunio lleol. Bydd y deunyddiau hyfforddi ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'n gwefan, neu fel copïau caled am ffi fechan.

Bydd gan gynghorau hefyd yr opsiwn o gomisiynu hwylusydd gan Gymorth Cynllunio Cymru i redeg y sesiynau iddyn nhw am bris gostyngol. Gweler yma am y ffioedd cyfredol.

Dyma'r pump pwnc a drafodir:

  • Pecyn Gweithgareddau 1: Gwella cyfathrebu gyda'ch awdurdod cynllunio lleol (2.5 awr)
  • Pecyn Gweithgareddau 2: Deall Cynlluniau Datblygu Lleol (2.5 awr)
  • Pecyn Gweithgareddau 3: Sut i fod yn effeithiol yn y broses o baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol (2.5 awr)
  • Pecyn Gweithgareddau 4: Gwneud sylwadau effeithiol ar geisiadau cynllunio (2.5 awr)
  • Pecyn Gweithgareddau 5: Cynllun gweithredu ar gyfer tai fforddiadwy (2 x 2.5 awr)

Am ragor o wybodaeth, neu i archebu seswin hyfforddi cysylltwch â Marika Fusser ar 01286 882834 neu drwy glicio yma.