![]() |
![]() |
||
|
|
|||
![]() |
![]() |
||
| Beth ydy PAW • A Allwch Chi Elwa • Hen brosiectau • Gwasanaethau a Chyhoeddiadau Eraill • Gwirfoddoli • Yr union beth? | |
| Beth ydy Cymorth Cynllunio Cymru | |||
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen gofrestredig sy'n darparu cyngor a chymorth proffesiynol ac annibynnol am ddim ar holl agweddau cynllunio gwlad a thref yng Nghymru. Mae'n cyflenwi gwaith awdurdodau cynllunio lleol, ond mae'n hollol annibynnol arnynt. Fel y bo'n briodol, bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn cyfeirio cleientiaid at ymgynghorwyr neu asiantaethau eraill. Prif nod CCC ydy cysylltu cymunedau â’r proses cynllunio. Mae’n gweithio gan ddarparu gwybodaeth a chyngor, gan gynnig cymorth a dadleuwriaeth i grwpiau cymunedol ac unigolion agored i niwed, gan addysgu’r cyhoedd o amgylch eu hawliau a chyfrifoldeb, a chan weithio gyda grwpiau cymunedol er mwyn sbarduno eu cyfraniad at y proses cynllunio. Mae CCC yn derbyn rhan helaeth o'i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n derbyn hefyd cefnogaeth ariannol oddi wrth SBCT Cymru (cangen Cymru o'r Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol). Mae CCC yn croesawu rhoddion o ffynonellau eraill. • Staff CCC • Gweithio gydag Awdurdodau Lleol • Cysylltau â'r Sector Preifat |
|||
| English | © Cymorth Cynllunio Cymru 2004, email: post@cymorthcynlluniocymru.org.uk | ||