Ymgynghoriadau cyn ymgeisio: Canllaw i gymunedau

Beth yw’r canllaw hwn?

Mae’r canllaw hwn yn ymwneud ag ‘ymgynghoriadau cyn ymgeisio’, sef rhan newydd o’r broses ceisiadau cynllunio yng Nghymru a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer cynghorau cymuned a thref, grwpiau cymunedol ac unigolion sydd eisiau deall ac ymateb i ymgynghoriadau cyn ymgeisio.

Mae’n esbonio’r rheolau ymgynghori newydd y mae’n rhaid i ddatblygwyr eu dilyn cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ‘datblygiadau mawr’, fel ceisiadau am 10 neu fwy o dai. Mae’n egluro hefyd sut y gall cymunedau ymateb i ymgynghoriadau cyn ymgeisio. Mae’r canllaw hwn wedi cael ei baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru gan Gymorth Cynllunio Cymru.

Rhan 1: Cyflwyniad a throsolwg

CyflwyniadTrosolwg cryno o’r system gynllunio yng NghymruPwy ydy pwy yn y system gynllunio?Beth ydy rheoli datblygu?

Cyflwyniad

Mae ymgynghoriadau cyn ymgeisio yn gyfle i gymunedau helpu i ddylanwadu ar y mannau maen nhw’n byw ynddynt
Fel rhan o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, gwnaeth Llywodraeth Cymru hi’n ofynnol i ddatblygwyr ymgynghori â chymunedau lleol cyn gwneud cais am ddatblygiadau mwy neu ‘ddatblygiadau mawr’.

Wrth baratoi’r Ddeddf, nododd Llywodraeth Cymru yr angen i gynnwys cymunedau yn well mewn datblygiadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac ar gam fwy cynnar yn y broses.

Mae ymgysylltu cynnar ac ystyrlon wrth gynllunio yn gallu:

  • Gwella ansawdd a pherthnasedd datblygiadau newydd.
  • Rhoi llais i bobl ac adeiladu eu hyder i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.
  • Adeiladu dealltwriaeth rhwng datblygwyr, awdurdodau cynllunio a chymunedau.

Mae’r canllaw hwn yn egluro’r broses ymgynghori cyn ymgeisio y mae’n rhaid i ddatblygwyr ei dilyn, a sut y gall cynghorau cymuned a thref, grwpiau cymunedol ac unigolion ddefnyddio’r broses i ddweud eu dweud ar ddatblygiad yn eu hardal.

Gellir gweld canllaw i ddatblygwyr ar ymgynghoriad cyn ymgeisio yn:

http://gov.wales/topics/planning/policy/guidanceandleaflets/pre-application-community-consultation-best-practice-guidance-for-developers/?lang=cy

Trosolwg cryno o’r system gynllunio yng Nghymru

Mae’r system gynllunio yn ymwneud â datblygu a defnyddio tir er budd y cyhoedd.
Mae’n helpu i ddylanwadu ar ddyfodol ein dinasoedd, trefi, pentrefi a’n cefn gwlad.

Pwy ydy pwy yn y system gynllunio?

The Llywodraeth Cymru sy’n gosod y fframwaith cyfreithiol ac yn cyhoeddi polisi a chanllaw cynllunio cenedlaethol ar sut mae’r system gynllunio yn gweithio yng Nghymru.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn penderfynu ar apeliadau cynllunio, ac yn archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol (y cyfeirir atynt fel ‘‘awdurdodau cynllunio’’ yn y canllaw hwn) yn gosod polisi cynllunio lleol drwy Gynlluniau Datblygu Lleol, yn penderfynu ar geisiadau cynllunio drwy reoli datblygu aac yn cymryd camau gorfodi yn erbyn achosion o dorri rheolau cynllunio. Mae 25 awdurdod cynllunio yng Nghymru – 22 o gynghorau unedol a thri awdurdod parc cenedlaethol.

Tirfeddianwyr ydy datblygwyr ar y cyfan, sy’n ceisio cael caniatâd cynllunio ar gyfer defnyddio tir newydd a chodi adeiladau newydd.

Ymgyngoreion statudolydy sefydliadau a chyrff y mae’n rhaid ymgynghori â nhw ynghylch ceisiadau cynllunio perthnasol yn unol â’r gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys asiantaethau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau priffyrdd a chynghorau cymuned.

Beth ydy rheoli datblygu?

Rheoli datblygu ydy’r broses y mae awdurdodau cynllunio yn ei defnyddio i wneud penderfyniadau ar geisiadau am ganiatâd cynllunio a gyflwynir gan ddatblygwyr.

Cyn y gellir gwneud penderfyniad ar gais, mae’n rhaid i’r awdurdod cynllunio hysbysu’r ymgyngoreion, rhoi gwybod i gymdogion cyfagos drwy lythyr, a rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau cynllunio drwy hysbysiadau safle, a thrwy eu gwefannau eu hunain, a gwahodd sylwadau ar y cais.

Mae gan aelodau’r cyhoedd a sefydliadau sy’n eu cynrychioli yr hawl i gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio, cyn belled â’u bod nhw’n gwneud hynny o fewn yr amser sy’n cael ei nodi yn yr hysbysiad (21 diwrnod fel arfer).

Penderfynir ar geisiadau cynllunio yn erbyn ystyriaethau perthnasol, neu faterion sy’n berthnasol i gynllunio. Yr ystyriaeth bwysicaf ydy’r cynllun datblygu. Gweler Rhan 3 a Rhan 4 am ragor o wybodaeth.

Mae’r broses ymgynghori cyn ymgeisio yn rhan newydd o’r broses rheoli datblygu. Cyn cyflwyno ceisiadau am ddatblygiadau mawr, y dyddiau hyn, mae’n rhaid i ddatblygwyr mawr hysbysebu ac ymgynghori â chymunedau am o leiaf 28 diwrnod cyn iddynt gyflwyno cais cynllunio.

Gellir cael rhagor o ganllawiau ar bob agwedd ar y system gynllunio yng Nghymru drwy’r dolenni canlynol:
Cymorth Cynllunio Cymru: www.planningaidwales.org.uk/about-planning/?lang=cy 
Llywodraeth Cymru: http://gov.wales/topics/planning/policy/?lang=cy

Rhan 2: Gwybodaeth am ymgynghoriadau cyn ymgeisio

Beth ydy ymgynghoriad cyn ymgeisio?Beth ydy datblygiad mawr?Beth mae’n rhaid i ddatblygwyr ei wneud?Pa ddogfennau sy’n gorfod cael eu cyhoeddi?Sut y dylai’r ymgynghoriad gael ei hysbysebu?Sut y dylai datblygwr ystyried sylwadau?Mynd y tu hwnt i’r gofynion

Beth ydy ymgynghoriad cyn ymgeisio?

PYmgynghoriad cyn ymgeisio yw pan mae datblygwr yn ymgynghori â’r gymuned ynghylch datblygiad mawr, cyn iddo wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Drwy siarad â’r gymuned leol, mae datblygwyr yn gallu deall eich safbwyntiau a’ch barn am y cynllun, a’u hystyried cyn iddynt gyflwyno cais cynllunio.

Erbyn hyn, mae’n ofyniad cyfreithiol i ddatblygwyr ymgynghori â’r gymuned leol cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr.

Dim ond gyda datblygiadau mawr y mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Y mater ‘cyn ymgeisio’ arall…
Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio yn broses ar wahân i’r gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio, sy’n cael ei ddarparu i ddatblygwyr gan awdurdodau cynllunio.

Codir ffi am y gwasanaeth hwn, ac mae’n rhaid i’r awdurdod cynllunio ei ddarparu i ddatblygwyr i’w helpu nhw i ganfod a oes angen caniatâd cynllunio a pha bolisïau, ystyriaethau perthnasol a chyfyngiadau fydd yn berthnasol o ran gwneud penderfyniad ynghylch eu cais.

Beth ydy datblygiad mawr?

Datblygiadau ydy’r rhain a allai gael effaith ar fwy na’r gymdogaeth leol, fel chwareli neu ddatblygiadau tai a manwerthu newydd.

Mae datblygiadau mawr yn cynnwys:

10 neu fwy o dai annedd.

Ceisiadau amlinellol ar safle o 0.5 hectar neu fwy lle nad ydy nifer yr anheddau wedi ei nodi;

Adeilad neu adeiladau lle mae’r gofod llawr fydd yn cael ei greu yn 1,000 metr sgwâr neu fwy;

Mwyngloddio – tynnu a phrosesu mwynau neu ddefnyddio tir i gloddio a phrosesu;

Datblygu gwastraff; a,

Datblygiad fydd yn cael ei gynnal ar safle sydd ag ardal o 1 hectar neu fwy.

 

Beth mae’n rhaid i ddatblygwyr ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod safon ofynnol y mae’n rhaid i bob datblygwr ei bodloni fel rhan o ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Mae’r safon ofynnol yn cynnwys:

  • Cyhoeddi dogfennau cais cynllunio drafft;
  • Rhoi gwybod i’r ymgyngoreion priodol;
  • Rhoi cyfnod rhybudd o 28 diwrnod; ac
  • Adrodd ar sut yr ystyriwyd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio a safbwyntiau pobl drwy gyflwyno Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio pan fydd yn cyflwyno’r cais cynllunio.

Er bod y gyfraith yn nodi’r safonau gofynnol uchod y mae’n rhaid i’r datblygwr lynu wrthynt, gall datblygwr fynd y tu hwnt i’r safonau gofynnol hyn i ymwneud mwy â’r gymuned leol – gweler rhan 2.8 am ragor o wybodaeth.

Er enghraifft, efallai y bydd datblygwr yn dewis cyflwyno ei gais mewn cyfarfodydd cyhoeddus neu mewn cyfarfodydd cyngor cymuned os yw’n cael gwahoddiad i wneud hynny.

Os mai dim ond y safonau gofynnol y mae’r datblygwr yn ymgymryd â nhw, mae hyn yn dal i roi cyfle i’r gymuned ddylanwadu ar y cais sydd ar y ffordd.

Pa ddogfennau sy’n gorfod cael eu cyhoeddi?

Mae’n rhaid i’r datblygwr wneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth ddrafft sy’n ymwneud â’r cais cynllunio ar gael. Does dim angen iddi fod yn fersiwn derfynol o’r dogfennau, ond dylai gynnig trosolwg rhesymol o’r cais.

Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael mewn lleoliad ger y safle ac ar, neu drwy wefan am o leiaf y cyfnod o 28 diwrnod pan y gellir cyflwyno sylwadau. Bydd dyddiadau cychwyn a diwedd y cyfnod ymgynghori yn cael eu nodi yn y llythyr ac ar yr hysbysiad safle.

Os mai dim ond ar y wefan mae’r cais drafft ar gael, yna rhaid i’r datblygwr gynnwys cyfeiriad llyfrgell neu leoliad arall hefyd, lle gellir cael mynediad i’r rhyngrwyd i weld y cais ar-lein.

Sut y dylai’r ymgynghoriad gael ei hysbysebu?

I wneud y gymuned leol yn ymwybodol o’r ceisiadau a bod y dogfennau cais drafft ar gael i’w gweld, rhaid i’r datblygwr hysbysebu’r ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Mae’n rhaid iddo wneud hyn drwy:

  • Anfon llythyrau neu negeseuon e-bost at y partïon perthnasol; ac,
  • Arddangos hysbysiad safle.

Llythyrau
Mae’n rhaid i’r datblygwr ysgrifennu at gymdogion y datblygiad arfaethedig, unrhyw gynghorau cymuned neu dref, ac at yr aelod(au) lleol. Cymydog ydy unrhyw berchennog neu ddeiliad tir sy’n byw yn agos i’r safle arfaethedig.

Y cyngor cymuned neu dref ydy unrhyw gyngor lle mae’r datblygiad wedi’i leoli, a’r aelod lleol ydy pob cynghorydd sy’n cynrychioli ward etholiadol lle mae’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli.

Dylai llythyrau ymgynghori gynnwys:

  • Disgrifiad/manylion sylfaenol am y datblygiad arfaethedig.
  • Manylion am ble allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth (ar wefan a/neu mewn lleoliad lleol fel llyfrgell leol).
  • Sut allwch chi gysylltu â’r datblygwr i fynegi eich barn.

Os ydy’r datblygiad yn croesi ffin, dylai’r datblygwr ysgrifennu at gynghorau ac aelodau bob ochr i’r ffin. Gall y datblygwr ymgynghori drwy lythyr neu e-bost.

Yna, mae gan bob parti 28 diwrnod i roi sylwadau ar y cais.

Hysbysiadau ar y safle

Rhybudd cyhoeddus ydy hysbysiad safle sydd wedi’i leoli ar y safle neu’n agos at y safle, a’i nod yw rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cais.

Mae’n rhaid i’r datblygwr wneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod yr hysbysiad yn aros yno am o leiaf 28 diwrnod yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Mae’n rhaid i’r hysbysiad ddweud wrth y cyhoedd am y bwriad i ddatblygu’r tir; lle gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cais (ar wefan a/neu mewn lleoliad lleol fel llyfrgell leol); a sut y gellir cyflwyno sylwadau i’r datblygwr am y cais.

Weithiau bydd datblygwr yn gosod mwy nag un hysbysiad safle os yw’r safle’n fawr iawn, neu fod llawer o ffyrdd neu lwybrau troed gerllaw.

Ymgyngoreion arbenigol

Yn ogystal ag ymgysylltu â’r gymuned leol, rhaid i’r datblygwr ymgysylltu ag ymgyngoreion arbenigol.

Ymgyngoreion a nodir mewn deddfwriaeth ydy’r rhain ac yn aml, mae ganddynt ddiddordeb penodol megis cadwraeth natur neu ddarpariaeth dŵr a charthffosiaeth, y gallai cynnig effeithio arnynt. Yn ogystal ag ymgysylltu â’r gymuned leol, mae’n rhaid i’r datblygwr ymgysylltu ag ymgyngoreion arbenigol.

Sut y dylai datblygwr ystyried sylwadau?

Unwaith y bydd y datblygwr wedi dweud wrth gymunedau lleol ac ymgyngoreion arbenigol am y cais ac wedi derbyn eu sylwadau, mae’n rhaid paratoi adroddiad o’r enw Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (Adroddiad PAC)

Yna, mae’n rhaid i’r adroddiad hwn gael ei gynnwys gyda’r cais pan gaiff ei anfon i’r awdurdod cynllunio. Ni fydd ceisiadau am ddatblygiad mawr yn cael eu dilysu heb yr adroddiad hwn.

Mae’n rhaid i’r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio:

  • Ddangos sut y rhoddwyd gwybod am y cais i gymdogion, cymunedau lleol ac ymgyngoreion allweddol;
  • Nodi pa sylwadau a dderbyniwyd ar y ceisiadau; ac
  • Esbonio os, a sut, y cafodd y sylwadau hynny eu hystyried gan y datblygwr wrth gwblhau’r cynllun, ac os nad ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau, pam.

Mynd y tu hwnt i’r gofynion

Er bod deddfwriaeth yn nodi’r gofynion sylfaenol y mae’n rhaid i ddatblygwr lynu wrthynt, gall datblygwyr yn aml wella’r broses ymgynghori drwy ychwanegu gweithgareddau ymgynghori ychwanegol, er mwyn sicrhau cyfraniad gan fwy o bobl.

Gall hyn fod yn rhywbeth mor fach â chynyddu nifer y bobl sy’n cael gwybod yn uniongyrchol am y cais er mwyn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw arfer gorau i ddatblygwyr ar ffyrdd o lunio ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Pan fo datblygwr yn ymgymryd ag ymgynghoriad pellach, byddwch yn dal i dderbyn yr wybodaeth sylfaenol, a bydd gennych o leiaf 28 diwrnod i ymateb fel sy’n ofynnol gan y broses ymgynghori orfodol. Gan y bydd y datblygwr eisiau sicrhau ei fod wedi cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, efallai y byddwch hyd yn oed yn derbyn mwy nag un llythyr/taflen am gynnig, un gwirfoddol, ac un sy’n cynnwys yr wybodaeth orfodol.

Sut mae cymunedau yn gallu helpu
Yn ogystal â’r datblygwr yn ymgynghori’n rhagweithiol, gall y gymuned chwarae rhan bwysig mewn codi ymwybyddiaeth a chyfrannu at ymgynghoriad.

Er enghraifft, gallai defnyddio ‘gair llafar’, grwpiau cymunedol a chyfryngau cymdeithasol helpu i gyrraedd rhannau eraill o’r gymuned a allai fod â diddordeb yn y datblygiad arfaethedig.

Gall y cyngor cymuned neu dref ddarparu gwybodaeth a chyngor yn rhagweithiol hefyd i ddatblygwyr ynghylch ymgynghori yn eu hardal. Bydd ganddynt wybodaeth leol werthfawr nid yn unig am yr amgylchedd adeiledig ond hefyd, am y ffyrdd mwyaf effeithiol o ymgysylltu â’u cymuned eu hunain. Gallai hyn gynnwys ffyrdd o wneud yr ymgynghoriad statudol yn fwy effeithiol (megis cysylltiadau e-bost ar gyfer y Cyngor, neu leoliadau ar gyfer arddangos deunyddiau), i awgrymiadau ar sut y gallant ymgynghori’n ehangach.

Adeiladu perthynas ar waith

Ar ôl derbyn nifer o ymgynghoriadau cyn ymgeisio gan ddatblygwyr, dechreuodd cyngor tref yn y gorllewin wahodd y datblygwyr i gyflwyno eu cais yng nghyfarfodydd y cyngor.

Ymatebodd nifer o ddatblygwyr, a daethant i gyflwyno eu cais. Helpodd hyn aelodau’r cyngor i ddeall y cais, a dechreuodd adeiladu perthynas ‘wrando’ bositif hefyd rhwng y datblygwr a’r gymuned.

Rhan 3: Ymateb i ymgynghoriadau cyn ymgeisio

Pwy sy’n cael ymateb?Pryd i ymatebYnghylch beth y gallwch chi gyflwyno sylwadau?Buddion Cymunedol / Angen LleolCyflwyno eich sylwadau

Pwy sy’n cael ymateb?

AMae unrhyw un yn cael ymateb i ymgynghoriad cyn ymgeisio. Mae hyn yn cynnwys y rheiny yr ymgynghorwyd â nhw’n uniongyrchol ac unigolion, grwpiau cymunedol a grwpiau diddordeb penodol sydd eisiau gwneud sylwadau ar ôl cael gwybod am y cais.

Mae Aelodau Lleol yn gallu cyflwyno sylwadau fel rhan o’r broses ymgynghori hefyd. Mae aelodau sy’n eistedd ar bwyllgor cynllunio yn cael gwneud sylwadau, ond dylent fod yn ymwybodol, er bod ganddynt yr hawl i gael barn ragarweiniol am fater penodol, na ddylent benderfynu ymlaen llaw ar unrhyw gynnig yn y dyfodol.

Felly, wrth gyflwyno sylwadau, mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr eu bod nhw’n cadw meddwl agored ac yn barod i ystyried rhinweddau’r holl ddadleuon a’r pwyntiau a wneir am y datblygiad cyn cyrraedd unrhyw benderfyniad ar gais cynllunio yn y dyfodol.

Ydy’r awdurdod cynllunio ynghlwm?
Dim ond rhwng y datblygwr a’r gymuned mae’r ymgynghoriad cyn ymgeisio, ac efallai na fydd eich awdurdod cynllunio yn ymwybodol bod cais yn cael ei baratoi hyd yn oed.

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich sylwadau’n cael eu cyflwyno i’r datblygwr fel y gellir eu hystyried cyn bod cais yn cael ei gyflwyno.

Efallai y bydd yr awdurdod cynllunio yn gallu darparu gwybodaeth i chi ar ble i ddod o hyd i hanes y safle blaenorol neu i weld y Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, dylid ond cyflwyno sylwadau ar y datblygiad i’r awdurdod cynllunio pan mae cais cynllunio yn cael ei ddatblygu.

Pryd i ymateb

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno ymatebion yn cael ei nodi yn y llythyr a’r hysbysiad safle, ac mae’n rhaid i’r datblygwr ystyried y sylwadau sy’n cael eu gwneud yn ystod y cyfnod hwn o 28 diwrnod.

Efallai na fydd sylwadau sy’n cael eu gwneud ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu hystyried, ond gallwch gysylltu â’r datblygwr i ofyn am fwy o amser. Peidiwch ag aros nes i’r cais gael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio, er mwyn i chi allu cyflwyno sylwadau iddynt. Mae ymateb i’r datblygwr yn caniatáu iddo ddiwygio’r cynllun i ddarparu ar gyfer newidiadau. Ar ôl i’r cynllun gael ei gyflwyno, efallai na fydd yn gwneud unrhyw newidiadau.

Ynghylch beth y gallwch chi gyflwyno sylwadau?

Gall unrhyw un gyflwyno sylwadau ar unrhyw beth mae’n ei ystyried yn berthnasol i’r cais. Fodd bynnag, er bod yn rhaid i ddatblygwyr ystyried y safbwyntiau a gyflwynir, mae cynllunio’n ymwneud ag ystyriaethau perthnasol, ac ni fydd materion eraill yn cyfrif rhyw lawer.

Ystyriaeth berthnasol ydy mater y dylid ei ystyried wrth benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais cynllunio yn y dyfodol.

Ystyriaethau perthnasol

Gallai’r rhain gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

  • Ceisiadau a pholisïau yn y CDLl;
  • Polisïau’r Llywodraeth;
  • Edrych dros/colli preifatrwydd;
  • Parcio;
  • Diogelwch y briffordd;
  • Traffig;
  • Sŵn;
  • Effaith ar adeilad rhestredig ac ardal cadwraeth;
  • Cynllun a dwysedd adeiladau;
  • Dyluniad, ymddangosiad a deunyddiau;
  • Penderfyniadau dylunio blaenorol (yn cynnwys penderfyniadau apeliadau); a,
  • Cadwraeth natur

Fodd bynnag, nid yw materion megis colli golygfa, yr effaith negyddol ar werth eiddo, neu resymau neu gymhellion yr ymgeisydd (er enghraifft, os yw’r datblygiad yn un damcaniaethol yn unig neu os oes unrhyw elw yn debygol o gael ei wneud) yn ystyriaethau perthnasol.

Buddion Cymunedol / Angen Lleol

Gall awdurdodau cynllunio ofyn am gyfraniadau gan ddatblygwyr i wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygiad, i helpu i fodloni anghenion lleol, neu i sicrhau buddion a fydd yn gwneud datblygu’n fwy cynaliadwy mewn dwy ffordd:

  • Cytundebau Adran 106. Cytundebau cyfreithiol preifat ydy’r rhain rhwng y datblygwr a’r awdurdod cynllunio, ac mae’n rhaid iddynt fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r safle. Gellid defnyddio cytundebau Adran 106 i ddarparu mynediad uniongyrchol i’r safle, mesurau amddiffyn yn erbyn llifogydd neu fywyd gwyllt, a darpariaethau hamdden ar y safle fel mannau agored neu ardaloedd chwarae.
  • Mae’rArdoll Seilwaith Cymunedol ayn caniatáu i awdurdodau lleol godi arian gan ddatblygwyr i gefnogi gwelliannau i seilwaith ar draws eu hardal, gwelliannau i ffyrdd, gwelliannau parcio / mannau agored neu gyfleusterau cymunedol nad ydynt yn gysylltiedig â’r safle.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Adran 106 a’r ASC drwy glicio’r ddolen hon: http://www.assembly.wales/Research%20Documents/QG15-007-Planning-Section%20106%20agreements/QG15-007-cy.pdf

Mae ymgynghoriadau cyn ymgeisio yn rhoi cyfle i’ch cyngor cymuned neu dref neu eich grŵp cymunedol gyfleu anghenion lleol yn uniongyrchol i’r datblygwr. Gallai hyn gynnwys awgrymiadau i ddarparu tai fforddiadwy, mannau agored cyhoeddus neu ardaloedd chwarae fel rhan o’r safle/cais.

Ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno, gallwch gyflwyno’ch barn hefyd am anghenion eich ardal leol, neu awgrymu amodau a allai gyfyngu ar effaith y cais fel rhan o’ch ymateb i’r awdurdod cynllunio.

Os ydy eich awdurdod cynllunio wedi mabwysiadu ASC, dylai gyhoeddi rhestr o’r prosiectau neu’r mathau o seilwaith mae’n bwriadu eu hariannu, neu y gallai ei ariannu, drwy’r ardoll. Mae ymgynghoriadau Cynlluniau Datblygu Lleol yn gyfle i chi bwysleisio anghenion seilwaith mwy (ysgolion, ffyrdd ayyb) a fyddai o fudd i’ch ardal chi.

Mae Cynlluniau Bro yn gyfle i gynghorau cymuned a thref (neu grwpiau cymunedol) i nodi a dangos anghenion y seilwaith yn eu hardal gymunedol. Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi paratoi canllawiau pellach ar Gynlluniau Bro, sydd ar gael yn: www.placeplans.org.uk

Cyflwyno eich sylwadau

Dylai ymatebion gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig i’r datblygwr drwy’r manylion a ddarperir. Mae’r adran ganlynol yn rhoi rhywfaint o awgrymiadau defnyddiol y gallech chi eu hystyried wrth lunio ymateb.

Ydych chi wedi ystyried y cais yn llawn?

Dylai’r holl sylwadau fod yn seiliedig ar ffeithiau, ac mae’n bwysig deall yn union yr hyn a gynigir a’r effaith bosibl y gallai hyn ei gael. Efallai y byddwch eisiau edrych ar y safle a’r ardaloedd cyfagos.

Cyn cyflwyno unrhyw sylw, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi edrych ar y cynlluniau, ac nad ydych chi’n dibynnu ar farn pobl eraill.

Enghreifftiau o gwestiynau y gallech chi ofyn i chi’ch hun/eich grŵp:

  • A yw’n dderbyniol? Os nad yw, pam?
  • A yw’n cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol neu unrhyw Ganllawiau Cynllunio Atodol?
  • A yw’n cyd-fynd â chynllun eich pentref/tref/bro?
  • Ydy nifer y tai yn briodol? Os nad yw, pam?
  • Ydy’r cynllun/dyluniad yn iawn – e.e. a fydd yn integreiddio â’r gymuned bresennol? A yw’n cyd-fynd yn weledol â’r ardal gyfagos?
  • Ydy maint/uchder yr adeiladau yn briodol?
  • A fydd yn effeithio ar draffig ac os felly, i ba raddau?
  • A fydd yn effeithio ar fywyd gwyllt lleol, ac os felly, sut?
  • A yw’n cynnwys dymchwel adeiladau sydd o werth i’r gymuned?
  • A fydd yn cynyddu’r risg o lifogydd?

 

Sut y gellid gwella’r datblygiad?

Pe bai’r datblygiad yn mynd rhagddo, beth ellid ei wneud i’w wella? Lle bo hynny’n bosib, nodwch pa newidiadau yr hoffech chi eu gwneud i’r datblygiad er mwyn ei wneud yn fwy derbyniol.

Does dim angen i chi wneud cynllun arall; fodd bynnag, po fwyaf o esboniad y gallwch ei roi, y mwyaf o gymorth fydd hyn i’r datblygwr.

Er enghraifft:

  • Oes gwelliannau y gellid eu gwneud i’r dyluniad neu’r cynllun a fyddai’n ei wneud yn well neu’n cael llai o effaith?
  • Oes yna amodau y gellid eu hychwanegu i gyfyngu ar unrhyw effeithiau negyddol?
  • Oes manteision perthnasol y gellid eu sicrhau ar gyfer eich cymuned?

 

Cyfeirio at y Cynllun Datblygu Lleol

Y Cynllun Datblygu Lleol yw’r ystyriaeth bwysicaf wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, oni bai bod unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill yn awgrymu fel arall.

Cyfeiriwch at bolisi cynllunio a allai fod yn berthnasol, ond does dim angen copïo’r polisi cyfan, gan y bydd y rhain ar gael yn rhwydd.

 

Cyfeirio at ystyriaethau perthnasol eraill

Cyfeiriwch at ystyriaethau perthnasol a pham rydych chi’n credu eu bod nhw’n cefnogi neu’n newid y datblygiad. Gall fod yn demtasiwn i drafod amrywiaeth o faterion, ond gall cynnwys pwyntiau amherthnasol olygu bod materion perthnasol yn cael eu hanghofio.

 

Cadw pethau’n gryno

Gwnewch yn siŵr bod eich sylwadau’n canolbwyntio ar y pwnc dan sylw, a’u bod nhw’n fyr ac yn gryno. Gall defnyddio is-benawdau i ddangos bob pwynt sicrhau nad ydy materion perthnasol yn mynd ar goll. Gallwch gynnwys gwybodaeth arall hefyd h.y. lluniau i gyfleu eich pwyntiau penodol.

 

Gwnewch yn siŵr bod eich sylwadau’n canolbwyntio ar y canlynol:
Y prif faterion Bod yn gryno Strwythur cryf Seiliedig ar dystiolaeth Diplomataidd!

Rhan 4: Ar ôl i chi ymateb

Ar ôl i chi ymatebCrynodebGair i gall

Ar ôl i chi ymateb

Ar ôl cwblhau’r broses cyn ymgeisio, bydd y datblygwr yn cyflwyno cais cynllunio i’r awdurdod cynllunio.

Yna, bydd yr awdurdod cynllunio yn prosesu’r cais, fel y disgrifir isod.

Cam 1 – Dilysu

Bydd yr awdurdod cynllunio yn gwirio pob cais i wneud yn siŵr bod yr holl ddogfennau a’r ffioedd sydd eu hangen wedi’u cyflwyno. Ar gyfer datblygiadau mawr, ni fydd ceisiadau’n cael eu dilysu heb Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, sy’n nodi ymateb y datblygwr i’r sylwadau a ddaeth i law, ac os nad yw wedi newid unrhyw beth, pam hynny.

Cam 2 – Ymgynghori a chyhoeddusrwydd

Bydd yr awdurdod cynllunio yn rhoi gwybod i’r cyhoedd a’r cymdogion ynghylch y cais. Bydd yn gwneud hyn drwy lythyrau at gymdogion, rhoi gwybod i’r cyngor cymuned neu dref, rhoi hysbysebion mewn papur lleol ac ar y safle.

Bydd y rhain yn nodi sut i weld cynlluniau a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau, sydd fel arfer yn 21 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi. Bydd yn anfon ymgynghoriadau i wahanol gyrff arbenigol hefyd, i gael eu barn arbenigol.

Mae’r cam hwn yn eich galluogi chi i gyflwyno eich sylwadau i’r awdurdod cynllunio. Gall y sylwadau hyn godi unrhyw ystyriaeth berthnasol am y datblygiad.

Pethau i gadw llygad arnynt yn yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio:

  • Beth sydd wedi newid yn y cais?
  • Ydy’ch sylwadau wedi cael sylw?
  • Os nad ydynt wedi cael sylw, oes unrhyw reswm pam?

Os wnaethoch chi gyflwyno sylwadau ar y cam cyn ymgeisio, gallech adolygu’r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, i weld sut y cafodd eich sylwadau eu hystyried.

Os ydych chi’n teimlo bod y sylwadau y gwnaethoch eu cyflwyno wedi cael eu hystyried ac wedi cael sylw, gallwch roi gwybod i’r awdurdod cynllunio am hyn.

Os ydych chi’n teimlo nad yw eich safbwyntiau wedi cael eu hystyried a’u bod yn gysylltiedig â materion cynllunio perthnasol, efallai yr hoffech roi gwybod i’r awdurdod cynllunio fel rhan o’ch sylwadau ar y cais.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi llunio canllaw i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio. Mae’n awgrymu deg ffordd i chi ymateb i gais, ac mae’n esbonio sut i gyflwyno eich barn yn y ffordd orau bosibl. Gallwch ei weld yma.

Cam 3 – Ystyriaeth
Bydd y cais yn cael ei asesu gan yr ACLl, a bydd yn ystyried polisïau cynllunio, ymatebion i’r ymgynghoriad a sylwadau cyhoeddus.

Os bydd problemau’n codi gyda’r cais a’i bod yn bosib mynd i’r afael â nhw drwy wneud newidiadau i’r cais, gall y swyddog gysylltu ā’r ymgeisydd i ofyn am welliannau addas. Gellir ailadrodd cam 2 yn dibynnu ar raddfa’r newidiadau.

Cam 4 – Penderfyniad
Mae’n rhaid penderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio yn unol â Chynllun Datblygu Lleol yr ardal, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.

Yr awdurdod cynllunio sy’n gyfrifol am benderfynu ar bob cais yn unol â’i haeddiannau cynllunio, a dylai ystyried safbwyntiau lleol, polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol, ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.

Efallai y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan swyddog o dan benderfyniad dirprwyedig, neu gan y pwyllgor cynllunio.

Mae cynllun dirprwyo’r Cyngor yn nodi pa benderfyniadau y gall swyddogion dynodedig eu gwneud ar ran y Cyngor. Mewn achosion lle na ellir defnyddio pwerau wedi’u dirprwyo, y Pwyllgor Cynllunio sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cymeradwyo neu wrthod y cais.

Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn agored i’r cyhoedd, felly mae’n bosibl y bydd y cyhoedd yn mynychu ac yn gwrando ar y drafodaeth. Efallai y byddwch hefyd yn cael cyfle i gyflwyno’ch barn gerbron y pwyllgor.

Crynodeb

Mae cymryd rhan yn y broses gynllunio yn helpu cymunedau i ddylanwadu ar ddatblygiadau.

Mae cefnogi cais neu awgrymu gwelliannau neu amodau a fydd yn lleddfu eich pryderon yn bwysig.

Fodd bynnag, os oes gennych wrthwynebiad i egwyddor y datblygiad, amlinellwch hynny yn erbyn yr ystyriaethau perthnasol, ond cofiwch y gallai’r datblygwr fwrw ymlaen i gyflwyno’r cais o hyd.

Gair i gall

  • Wybod sut mae’r system gynllunio yn gweithio.
  • Ystyried cynigion datblygwyr yn llawn.
  • Geisio dechrau trafod gyda’r datblygwr; gallai hyn arwain at berthnasoedd gwaith cadarnhaol ar geisiadau yn y dyfodol hefyd.
  • Ymgyfarwyddo a deall y Cynllun Datblygu Lleol a’r polisïau a allai effeithio ar y cais.
  • Gyfeirio at ystyriaethau perthnasol yn eich ymatebion i ddatblygwyr (ac i’r awdurdod).
  • Nodi’n glir eich bod chi’n cefnogi datblygiad os nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad.
  • Wneud yn siŵr bod eich sylwadau’n canolbwyntio ar y mater dan sylw a’i fod yn berthnasol.
  • Gymryd yn ganiataol bod yr awdurdod cynllunio yn ymwybodol o’r cais cyn ymgeisio.
  • Fod yn rhy hwyr yn ymateb – cysylltwch â’r datblygwr a gofyn am estyniad os nad oes gennych chi ddigon o amser yn y 28 diwrnod.
  • Ofni trafod er mwyn sicrhau buddion cymunedol yn sgil y system gynllunio.

Cwestiwn heb ei ateb?

Os ydych chi’n dal i chwilio am gyngor, efallai y gallwch gael cymorth trwy ein Llinell Gymorth dros y ffôn.

Cliciwch yma i gael mynediad i’n gwasanaeth Llinell Gymorth >>

Send this to a friend