Caniatâd Cynllunio

Penderfynnir ar geisiadau cynllunio gan ddefnyddio proses a adwaenir fel ‘rheolaeth datblygu’.

Rheolaeth datblygu yw’r rhan o’r system gynllunio y mae’r cyhoedd yn gwybod y mwyaf amdano. Mae’n ymwneud â phenderfynu a ddylid caniatáu’r datblygiad arfaethedig neu’r newid i’r defnydd tir. Mae hyn yn rhwystro pobl rhag adeiladu ble bynnag y dymunant ac yn sicrhau bod y datblygu’n addas ar gyfer ardal ac na fydd y datblygiad newydd yn gwneud niwed i’r amgylchedd lleol.

Ar y cyfan mae rheolaeth datblygu yn ymwneud â phrosesu ceisiadau cynllunio. Bydd penderfyniad ar gais cynllunio yn hysbysu’r unigolion sy’n gwneud y cais a roddir caniatâd iddynt adeiladu beth a ddymunant neu beidio. Mae hefyd yn gosod allan y rheolau ynghylch rhai mathau o ddatblygiad lle nad oes rhaid cael caniatâd cynllunio – gelwir hyn yn ‘ddatblygiad a ganiateir’.

Mae gwahanol fathau o ddatblygiad yn gofyn am wahanol lefelau o reolaeth datblygu. Yn gyffredinol, os yw datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol, bydd y gweithdrefnau rheolaeth datblygu yn fwy llym. Er enghraifft, os ydych am adeiladu stâd o dai bydd yn fwy anodd i chi gael caniatâd cynllunio na pe baech am adeiladu garej yn eich gardd.

Rhydd y tudalennau yn y rhan hon o’r wefan arolwg fer ar rai o’r prif ystyriaethau sy’n berthnasol i geisiadau cynllunio. Am wybodaeth fwy manwl am geisiadau cynllunio a sut i roi sylwadau arnynt dylech lawrlwytho’n cyhoeddiad rhad ac am ddim ‘Beth i’w wneud pan yn wynebu cais cynllunio’.

Cwestiwn heb ei ateb?

Os ydych chi’n dal i chwilio am gyngor, efallai y gallwch gael cymorth trwy ein Llinell Gymorth dros y ffôn.

Cliciwch yma i gael mynediad i’n gwasanaeth Llinell Gymorth >>

Share via
Share via
Send this to a friend