Sut gall cynllunio fynd i’r afael â’r perygl o lifogydd i gymunedau?

This event has ended

Gall llifogydd arwain at ganlyniadau mawr i gymunedau, gan effeithio ar gartrefi, gweithleoedd a gwasanaethau ehangach. Gall ddigwydd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ac yn aml heb rybudd sylweddol. Gall y llifogydd hyn ddigwydd yn amlach a bod yn fwy difrifol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Mae hanes datblygu yng Nghymru, sy’n cael ei yrru’n rhannol gan ei ddaearyddiaeth, wedi golygu meysydd datblygu sylweddol mewn ardaloedd a allai fod yn agored i lifogydd, er nad yw materion o’r fath wedi’u cyfyngu i’r ardaloedd hyn.

Gall problemau godi oherwydd llifogydd arfordirol, llifogydd afon neu lifogydd dŵr wyneb. Gall rhai peryglon llifogydd, fel llifogydd arfordirol, hefyd arwain at erydu ac ansefydlogrwydd tir.

Felly, mae’n amlwg bod gan y system gynllunio rôl bwysig i’w chwarae wrth ystyried materion llifogydd mewn perthynas â datblygiadau presennol a lle mae datblygiadau newydd yn digwydd. Ar yr un pryd ag y mae angen mynd i’r afael â’r problemau llifogydd hyn, mae Cymru’n wynebu pwysau eraill drwy’r system gynllunio fel yr angen am gartrefi newydd, safleoedd cyflogaeth a chyfleusterau cymunedol. Felly, rhaid i’r system gynllunio fynd i’r afael â’r gwrthdaro posibl yn yr holl nodau hyn. Hefyd, mae angen ystyried cysylltiadau’r materion hyn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y mater hwn, ac mewn perthynas â chynllunio a llifogydd, wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol diwygiedig i gefnogi polisi ym Mholisi Cynllunio Cymru. Cafodd TAN 15 “Datblygiad, llifogydd ac erydu arfordirol” ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021. Fodd bynnag, cyhoeddwyd ymgynghoriad pellach gyda diwygiadau pellach i’r canllawiau hyn. Mae disgwyl i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 17 Ebrill 2023.

Bydd y weminar yn rhoi trosolwg o’r materion sy’n ymwneud â risg llifogydd a chynllunio a’i effaith ar gymunedau lleol. Bydd y digwyddiad yn ystyried sut mae cymunedau lleol wedi ceisio ystyried a mynd i’r afael â’r mater hwn. Bydd y siaradwyr yn rhoi cipolwg ar y mater o nifer o wahanol safbwyntiau.

Rydyn ni’n ffodus o groesawu amrywiaeth o siaradwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cynghorau cymuned a sefydliadau cenedlaethol sydd â phrofiad a dealltwriaeth sylweddol o’r materion hyn a sut y gellir rhoi sylw iddynt ledled Cymru.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?

• Cynghorau Cymuned a Thref

• Mudiadau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol

• Awdurdodau Cynllunio Lleol, Swyddogion a Chynghorwyr

• Datblygwyr / asiantau

Archebwch nawr ar Eventbrite >>