Gwerth Ymgysylltiad y Gymuned a Chynllunio Arolwg

Ysgrifennwn atoch i ofyn am eich cymorth gydag astudiaeth mae Cymorth Cynllunio Cymru yn ei chynnal ar werth ymgysylltiad y gymuned â chynllunio yng Nghymru.

Cefnogir ac ystyrir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru.

Ein dull yw gofyn am safbwyntiau a nodi astudiaethau achos, o’r ystod mwyaf eang posibl o grwpiau a sefydliadau, ynghylch cryfderau a gwendidau y dulliau cyfredol ynghylch ymgysylltiad cymunedol, ac yna chwilio am safbwyntiau ar beth efallai fyddai’n gwella’r fath ddulliau yn y dyfodol.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi paratoi cronfa ddata eang o bobl â diddordeb, yn cynnwys y rhai o fewn y system megis awdurdodau lleol, y llywodraeth, a’r Arolygiaeth, y rhai’n gweithio mewn neu ar ran y sector breifat ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr y gymuned.

Bydd yr astudiaeth yn ystyried y cyfyngiadau cyfredol ar adnoddau o fewn Awdurdodau Cynllunio Lleol a Llywodraeth Cymru a dylai unrhyw argymhellion fod yn bosibl i’w cyflawni o fewn y ddeddfwriaeth bresennol.

Rydym yn cysylltu â chi, fel rhanddeiliad a nodwyd, ar ddechrau’r prosiect cyffrous hwn. Gobeithiwn sicrhau sylw daearyddol da, er mwyn galluogi cyfraniadau gan sefydliadau a chwmnïau bach a mawr, yn ogystal ag oddi wrth y rhai sy’n canolbwyntio ar greu cynlluniau a rheolaeth datblygu. Cefnogir y gwaith cysylltu cynnar hwn gan adolygiad llenyddol trylwyr sy’n defnyddio deunydd, nid yn unig o Gymru, ond hefyd o ymhellach i ffwrdd.

*I lawrlwytho fersiwn MS Word o’r holiadur, cliciwch yma

Share via
Share via
Send this to a friend