Hanes Cymorth Cynllunio Cymru

Y Cychwyn

Roedd y 1970au yn gyfnod o newid mawr yn Ne Cymru gydag ailddatblygu canol dinas Caerdydd, rhaglen gwaredu slymiau tai hŷn a chael gwared ar Gynllun Buchanan. Arweiniodd hyn at nifer o fyfyrwyr ac ymarferwyr cynllunio tref yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gweithredol mewn cymunedau yn Ne Cymru.  Daeth Ian Horsburgh a Richard Essex, aelodau RTPI, yn ymwybodol o wasanaeth Cymorth Cynllunio a sefydlwyd gan Sefydliad Cynllunio Gwlad a Thref (TCPA), dan reolaeth David Lock, oddeutu 1973 yng Nghaerdydd.

Yn erbyn y cefndir hwn, yn 1974, ysgrifennodd Richard Essex bapur a gyflwynodd i Bwyllgor Cangen De Cymru Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), yn amllinellu’r angen am wasanaeth cymorth cynllunio. I gychwyn, roedd gwrthwynebiad arwyddocaol i’r cynnig, oddi wrth aelodau’r sector gyhoeddus a phreifat, ond goroeswyd hyn nes ymlaen. Y papur hwn oedd y catalydd i sefydlu Cymorth Cynllunio De Cymru.

Yn dilyn ei gyhoeddi, sefydlwyd is-bwyllgor (Ian Horsburgh, Richard Essex, Margaret Evans a Paul Williams) o fewn yr RTPI i redeg gwasanaeth gwirfoddol yn darparu cyngor cynllunio. Yn fuan wedyn, cytunodd is-bwyllgor yr RTPI i ariannu costau gweinyddol a chyhoeddusrwydd, er mwyn rheoli tri gwirfoddolwr yn gweithio gartref a gydlynwyd gan Richard Essex. Y gwirfoddolwyr hyn oedd: Sue Essex, Kath Coleman, Anne Leonard a Margaret Evans.

Y Dyddiau Cynnar

Yn 1979, trosglwyddodd Richard Essex y dyletswyddau cydlynu i Ian Horsburgh, bellach yn ymddiriedolwr a gwirfoddolwr hir dymor gyda Cymorth Cynllunio Cymru, a sefydlwyd grŵp llywio.

Yn 1983, gan ddefnyddio cyllid a gytunwyd arno yn flynyddol gan RTPI ac arian gan y Comisiwn Gwasanaeth Gweithlu i weithwyr (cynllun creu swyddi y llywodraeth), roeddem yn gallu rhentu gweithle o fewn swyddfeydd y Gwasanaeth Dylunio Cymunedol (CDS) yn ardal Splot, Caerdydd. Cyflogwyd dau aelod staff ac un ohonynt oedd John Drysdale, cyn is-Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd.

Roedd ef yn pryderu nad oedd y gwasanaeth yn targedu’r rhai hynny â’r angen mwyaf am gymorth cynllunio, a lluniodd y meini prawf cymhwysedd cyntaf i flaenoriaethu’r rhai â’r angen mwyaf. Heddiw rydym yn parhau i ddefnyddio meini prawf cymhwysedd gyda thair lefel o angen, er mwyn ein cynorthwyo ni i helpu’r rhai â’r angen mwyaf am gymorth cynllunio.

Ymwelydd pwysig

Uchafbwynt ein cyfnod yn swyddfeydd CDS oedd ymweliad gan y Tywysog Charles, a edrychodd ar ein gwaith a gwneud y sylw,

‘Cynllunio, hmmm chydig o benbleth yn dydy?’

 Symud Ymlaen

Sawl blwyddyn yn ddiweddarch fe symudom ni i Fae Caerdydd (fel y’i adwaenid maes o law) ble buom yn rhentu ystafell yn swyddfa Pwyllgor Tywysog Cymru, elusen amgylcheddol, yn Empire House. Erbyn hyn roeddem yn cyflogi cynghorydd cynllunio am sawl awr yr wythnos i ymateb i geisiadau mwy syml am gymorth. Allan Hambly, oedd wedi ymddeol fel swyddog Rheoli Datblygu Cyngor Caerdydd oedd deiliwr cyntaf y swydd.

Roeddem yn dymuno symud tu hwnt i ddelio’n unig â galwadau i’r llinell gymorth a bod yn ymatebol, ac i symud i fod yn fwy rhagweithiol a cheisio cynorthwyo unigolion a grwpiau i ‘helpu eu hunain’. Mae’r penderfyniad hwn wedi cael effaith parhaol ar Gymorth Cynllunio Cymru ac mae’n parhau i dywys ein gwaith all-gyrraedd gyda chymunedau targed yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg ein swyddfa yn Heol yr Eglwys Newydd, Caerdydd gyda 5 aelod staff a 30 gwirfoddolwr (Bwrdd o Ymddiriedolwyr, swyddfa a gwaith achos).

Hadau Twf

Mae enghreifftiau o’n gwaith arloesol yn ystod dyddiau cynnar Cymorth Cynllunio Cymru yn cynnwys:

  • Cyhoeddiadau Gwasanaeth Cymunedol ar HTV Cymru (Bellach ITV).
  • Ysgrifennu cyhoeddiadau.
  • Addysg amgylcheddol gyda phlant yn nyddiau ‘Plan away’ Caerdydd a gemau i blant yng Ngharnifalau Heol Charles.
  • Mynychu cynadleddau ac arddangosfeydd.
  • Trefnu cynadleddau (Cynhadledd Genedlaethol Cymorth Cynllunio a chynhadledd arall ar Siartrau Cynllunio, a ddenodd 200 o gyfranogwyr ac a oedd yn ddylanwadol yn helpu awdurdodau cynllunio lleol i gynhyrchu eu siarter).
  • Codi arian, yn cynnwys arwerthiant sborion a nosweithiau cwis (yn yr un mwyaf llwyddiannus daeth 150 ynghyd gyda band yn chwarae yn yr egwyl).
  • Casglu cyfraniadau gan y rhai roeddem wedi eu helpu.
  • Arolygon o sut gall derbynfeydd adrannau cynllunio helpu’r cyhoedd (o ganlyniad i hyn newidiodd cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg eu derbynfeydd i’w gwneud yn fwy croesawgar).
  • Darllediadau radio, yn cynnwys darllediadau byw gyda sesiynau cwestiwn-ac-ateb ar faterion cynllunio. Recriwtio gwirfoddolwyr, yn enwedig cynllunwyr di-waith, a myfyrwyr i helpu yn y swyddfa.

Yn 1985, cynnyrchwyd fideo hyrwyddo gan y grŵp llywio yn esbonio ein gwaith gyda chymorth ‘Gweithdy Fideo Cymunedol’ Canolfan Gelfyddydau Chapter a gynhaliwyd gan Terry Dimmock. Gweithiodd Ian Horsburgh a’r gwirfoddolwyr Marion Davies a Graham Oran ar y fideo am dros saith mis. Roedd hyn yn yr oes cyn-ddigidol ac roedd pethau’n symud yn araf. Cafwyd cyflwyniad oedd yn ddarn clyfar yn defnyddio darlun gan Constable (The Haywain) a ailddatblygwyd fel jwngwl trefol gan ddefnyddio delweddau cartŵn.

Ehangu

Yn y 1980au hwyr, cynhaliwyd cyfarfod anffurfiol rhwng Ian Horsburgh a Phrif Swyddog Cyllid yn y Swyddfa Gymreig a arweiniodd at ein fideo yn cael ei dangos yn breifat i’r Ysgrifennydd Gwladol (Nicholas Edwards AS) a’r Prif Gynllunydd yn y Swyddfa Gymreig. Yn fuan wedyn, yn 1990, sefydlwyd cronfa amgylcheddol ac anogwyd Cymorth Cynllunio De Cymru i ymgeisio amdani.  Roeddem yn llwyddiannus ac aethom o incwm o lai na £10,000 y flwyddyn i £50,000 y flwyddyn am dair blynedd.

Dod yn Elusen Annibynnol

Gofynnwyd cwestiynau ar ariannu yng nghyfarfod gweithredol cangen RTPI De Cymru yn dilyn dyfarnu’r gronfa.  Cafwyd trafodaeth a ddylai Cymorth Cynllunio De Cymru (SWPA) barhau i fod yn rhan o’r RTPI.  Galwyd cyfarfod ar gyfer gwirfoddolwyr SWPA a chafwyd penderfyniad y dylai SWPA fod yn annibynnol o’r RTPI, er yn cadw cysylltiadau agos trwy aelodaeth Bwrdd cydfuddiannol. Yn ogystal, penderfynwyd y dylai’r sefydliad newydd fod yn un i Gymru gyfan, ac yn gwmni wedi ei gyfyngu gan warant. Yn 1990, ganwyd Cymorth Cynllunio Cymru, ac enillwyd statws elusennol yn fuan wedyn.

Pan ddaeth cyfnod ariannu tair blynedd y Swyddfa Gymreig i ben yn gynnar yn y 1990au, dychwelwyd i fod yn sefydliad gwirfoddol fwy neu lai. Yn ffodus, roedd cangen De Cymru RTPI wedi parhau i ariannu’r gwasanaeth Cymru gyfan annibynnol, a hwn, eto, ddaeth yn brif ffynhonnell incwm i ni gan nad oeddem yn derbyn fawr ddim o ariannu o’r tu allan.  Yn ystod y cyfnod hwn cyhoeddwyd ein Llawlyfr Cyhoeddus ar y System Gynllunio Defnydd Tir, yn dilyn comisiwn gan Gynghorau Cymuned a Thref Cymreig; hwn oedd yr unig lawlyfr cyffredinol ar gynllunio ar gyfer y cyhoedd yn y DU.

Newid Cyfeiriad hyd at Heddiw

Ar yr adeg hon, cododd rhai anawsterau. Ar un adeg fe’n gorfodwyd i wneud trefniadau i waredu’r cwmni. Fodd bynnag, cafwyd trobwynt yn ein ffawd gyda datganoli. Yn dilyn etholiad cyffredinol 1997, ymrwymodd llywodraeth Lafur newydd San Steffan i ariannu cymorth cynllunio yn Lloegr o ddifri, ac o fewn ychydig cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai’n darparu arian ar gyfer astudiaeth dan yr enw ‘Llunio Dyfodol Cymorth Cynllunio Cymru’, yn edrych ar y potensial am wasanaeth cymorth cynllunio ehangach yng Nghymru.

Tra rydym wedi tyfu yn nhermau daearyddiaeth a staff, ac wedi datblygu ein gwasanaethau yn fawr dros y blynyddoedd, mae camsyniadau am yr hyn ydym ni, a’r hyn a wnawn, yn parhau,  yn cynnwys:

  • ein bod ond yn delio â gwaith achos Rheoli Datblygu
  • bod yn rhaid i’r holl wirfoddolwyr fod yn aelodau o MRTPI
  • ein bod yn gweithio yn erbyn Awdurdodau Cynllunio Lleol ac mewn cystadleuaeth â nhw
  • bod gwirfoddoli gyda ni yn cymryd llawer o amser ac yn anhyblyg
  • nad yw’r cyhoedd yn deall y system gynllunio.

Ers 1997, wrth i fframwaith ddeddfwriaethol cynllunio yng Nghymru ddatblygu, roedd ariannu yn cadw i fyny â chwyddiant ac yn galluogi gwaith CCC i ddatblygu ochr yn ochr.  Fodd bynnag, mae’r 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn fwy heriol, gyda thoriadau mewn cyllid yn achosi heriau go iawn.  Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i’n gwaith yn parhau, a blynyddoedd o ymdrech goruwch naturiol gan yr Ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a’r staff, rydym wedi llwyddo “i gadw i fynd”.

Gan ddefnyddio sianeli cyfryngol a thechnoleg mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi ymestyn ei gyrhaeddiad trwy’r gwasanaeth llinell gymorth, hyfforddiant, cylchlythyrau, gwefannau penodedig a phresenoldeb eang ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn wir, mae’r tîm staff wedi cael cydnabyddiaeth am ei waith tîm rhagorol trwy ei ddethol i fod yn y rownd derfynol a chael gwobr a chanmoliaeth yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cynllunio yr RTPI yn y DU yn 2020.

 

Dechreuais gymryd rhan gyda Chymorth Cynllunio Cymru yn weddol fuan ar ôl cymryd swydd gynllunio gyda Chyngor Caerdydd yn 1980.  Roeddwn yn wirfoddolwr am sawl blwyddyn yn gwneud gwaith achos pryd bynnag oedd gennyf yr amser i wneud hynny. Yn anad dim roedd y gwaith yn foddhaol iawn ond efallai’r achos mwyaf gwerth chweil oedd helpu teulu o ffoaduriaid o Fietnam i gael caniatâd cynllunio am fwyty, gyda llety i’w teulu mawr uwchben, yn wyneb gwrthwnebiad gan yr awdurdod lleol a’r trigolion. Ffynnodd y bwyty, a’r teulu; ac ni phasiodd lawer o amser cyn bod y trigolion a swyddogion y cyngor yn ei ddefnyddio.  Rwyf wedi cadw mewn cyswllt â’r teulu ers hynny. I mi, roedd yr achos yn tanlinellu’r angen am gyngor diduedd, yn rhad ac am ddim, ar gyfer y rheiny nad sy’n gallu fforddio talu amdano; hebddo, gall y dinasyddion tlotaf, sydd heb gysylltiadau da, ddioddef anghyfiawnderau difrifol.

 Huw Thomas

 

Ces gymhwyster fel cynllunydd yn y ‘70au ym Mhrifysgol Newcastle ac wedyn bum yn gweithio i Gyngor Sir Swydd Warwick. Fel llawer i fam yn yr ‘80au rhois y gorau i weithio er mwyn magu’r teulu. Hefyd, symudais i Gymru. Roedd meddwl am ddychwelyd i’r gweithle yn y ‘90au ar ôl seibiant o 13 mlynedd yn frawychus. Fodd bynnag, roedd gweithio’n rhan amser fel gwirfoddolwraig yn swyddfa Cymorth Cynllunio Cymru yn Empire House wedi rhoi’r cyfle ro’n i ei angen. Tra roeddwn i yno, daeth cyfle i weithio fel Swyddog Rhaglen ar Gynllun Strwythur De Morgannwg. Nesaf, roeddwn yn gallu gweithio fel swyddog cynllunio am gyfnod mamolaeth ar y Cynllun Strwythur, a arweiniodd maes o law at swyddi parhaol mewn cynllunio strategol a rheoli datblygu gyda Chynghorau Caerdydd a Sir Benfro. Mae gen i edmygedd mawr o’r staff a gwirfoddolwyr Cymorth Cynllunio Cymru ac rwy’n ddiolchgar am y cymorth a gefais i ailddechrau fy ngyrfa.

 Jenny Vince

 

‘Ymunais â Chymorth Cynllunio yn???? pan oeddwn newydd gael cymhwyster fel Cynllunydd.  Roedd yn brofiad dysgu ardderchog i gael cymryd rhan mewn datblygu’r gwasanaeth mae Cymorth Cynllunio nawr yn ei ddarparu.  Roedd helpu ar fideo Cymorth Cynllunio a chynllunio dyddiau bant yn llawer o hwyl ac wedi helpu gwella fy sgiliau cyfathrebu.’

 Marion Davies MRTPI (Wedi ymddeol)

 

 “Rwyf wedi gwirfoddoli gyda CCC mewn nifer o swyddi – drafftio ymatebion i ymgynghoriadau, delio â gwaith achos a thraddodi hyfforddiant – ers gadael Llywodraeth Cymru yn 2005, ac rwyf wedi bod yn un o’r Ymddiriedolwyr ers 2015.  Dros y cyfnod hwnnw, rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl o bob rhan o Gymru gyda diddordeb cyffredin mewn gwella sut mae cynllunio’n gweithio a’r canlyniadau mae’n ei gyflawni.  Serch yr anawsterau presennol rwy’n credu bod CCC yn dryw i gysyniad gwreiddiol ei sylfaenwyr. Os rhywbeth, bydd ei angen lawer mwy yn y dyfodol”.

 Kay S. Powell

 

 “Ymunais â Chymorth Cynllunio De Cymru fel gwirfoddolwr yng nghanol y 1970au, gan barhau yn y rôl honno i’r 1980au hwyr. Mae’n ymddangos yn amser pell iawn yn ôl erbyn hyn. Un o’m hachosion cynharaf oedd gyda theulu o deithwyr ifanc a oedd wedi penderfynu symud o safle carafanu i dŷ ond roeddent wedi cymryd eu carafán a’r lori tarmacadamio i ardd y tŷ. Roeddent yn destun hysbysiad gorfodaeth cynllunio. Roedd hyn yn her ddiddorol i un oedd newydd raddio fel cynllunydd. Dysgais lawer yn y broses. Rwy’n falch i ddweud bod popeth wedi ei ddatrys yn gyfeillgar o safbwynt y teulu a’r awdurdod cynllunio lleol, cystal nes bod yr awdurdod wedi cynnig swydd i mi flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach.”

 Martin Buckle

Share via
Share via
Send this to a friend