Paratoi ar gyfer Cynlluniau Cynefinoedd

This event has ended

Bydd y cwrs hwn yn defnyddio astudiaethau achos i edrych yn fanwl ar natur, gofynion a pharatoi Cynlluniau Cynefin. Erbyn diwedd y cwrs bydd eich Cyngor Cymuned yn gywbod y cyfan er mwyn gwneud penderfyniad a yw Cynllun Cynefin yn iawn i’ch cymuned chi a sut i baratoi un os ydyw.

Bydd y cwrs yn delio â:

Deall Cynlluniau Cynefin

Cyflwyniad i Bolisi Cynllunio a’i ddatblygiad.
Eich Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), polisïau allweddol a Chanllaw Cynllunio Atodol.
Cynlluniau Cynefin – y prif egwyddorion.
Astudiaethau achos Cynlluniau Cynefin – beth sy’n gynwysiedig mewn Cynlluniau Cynefin?

Paratoi Cynllun Cynefin

Pwysigrwydd tystiolaeth.
Gweithio gyda’ch awdurdod cynllunio lleol.
Mathau o Gynlluniau Cynefin, tystiolaeth briodol a chasglu tystiolaeth.
Ymgysylltiad Cymunedol – technegau allweddol ac astudiaethau achos.
Cynllunio ac ariannu eich prosiect.

Gwneud y penderfyniad (rhyngweithiol). Ardal eich cymuned (ymarfer mapio).

Defnydd tir yn erbyn blaenoriaethau cymunedol eraill.
Blaenoriaethu eich blaenoriaethau ac ymrwymo’ch cymunedau.
Pa un sydd orau? Polisi CDLl, Datganiad Dylunio, Cynllun Cynefin neu Gynllun Cymunedol.
Y camau nesaf gyda’ch awdurdod cynllunio lleol.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?

  • Awdurdodau Cynllunio Lleol sy’n chwilio am gyfarwyddyd ar sut i gefnogi eu cymunedau wrth ddatblygu Cynlluniau Cynefin.
  • Cynghorau Cymuned a Thref a grwpiau cymunedol sy’n ystyried paratoi Cynllun Cynefin ond ddim yn gwybod a ddylent wneud hyn na ble i ddechrau.
  • Datblygwyr/asiantiaid sydd â diddordeb yn yr arbedion a ellir eu gwneud trwy ymgysylltiad cymunedol ystyrlon sy’n mynd y tu hwnt i ‘dicio blychau’.

Os nad oes gennych gerdyn credyd / debyd ar gael yna gallwn roi Anfoneb i chi yn uniongyrchol. Cysylltwch â ni ar 02920625004 neu [email protected]

Archebwch nawr ar Eventbrite >>